Osteopatheg, Most

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Osteo

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y radd pedair blynedd hon mewn Osteopathi yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ddod yn osteopath cofrestredig, sy'n gymwys i wneud diagnosis a thrin ystod eang o faterion iechyd trwy therapi llaw, ymarferion wedi'u teilwra, adsefydlu, a chyngor.

Byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o anatomeg, ffisioleg, patholeg a seicoleg poen, ynghyd â thechnegau archwilio clinigol rhagorol, gan gyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol ymarferol helaeth.

Pam Osteopathi ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, sy'n eich galluogi i gofrestru i ymarfer ar ôl graddio.

Mae gennym enw da iawn ac rydym Yn 1 yn y DU am Feddygaeth Gyflenwol (Complete University Guide, 2024).

Ymhlith y cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol mae clinig osteopathig cwbl weithredol yn yr Academi Iechyd a Llesiant sydd wedi ennill gwobrau. Mae staff y clinig hwn yn osteopathiaid cymwysedig sy'n gweithio yn y proffesiwn. Mae hyn yn sicrhau y byddwch yn meithrin eich sgiliau a'ch hyder dan oruchwyliaeth mewn amgylchedd diogel wrth i chi roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith.

Mae gennym gytundeb unigryw â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sy'n rhoi'r cyfle i chi weithio yn un o leoliadau integredig y GIG oddi ar y campws yn eich blwyddyn olaf.

Byddwch hefyd yn astudio modiwlau datblygu busnes os ydych yn bwriadu sefydlu eich practis eich hun.

Eich Profiad ym Maes Osteopatheg

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dechrau lleoliadau clinigol wythnosol, gan ddechrau gydag ymweliadau arsylwi ac adeiladu ar ymarfer annibynnol yn eich blwyddyn olaf. 

Gan y byddwch wedi'ch lleoli yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sef darparwr addysg gofal iechyd mwyaf Cymru, byddwch yn cael eich trwytho mewn amgylchedd ymchwil a dysgu dynamig.

Gyrfaoedd Osteopathi

Mae'r rhagolygon gyrfa yn ardderchog: Mae 94% o raddedigion yn gweithio, yn astudio a/neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio, 15 mis ar ôl gadael y Brifysgol Abertawe - HESA 2022

Caiff eich cyflog ei bennu yn ôl nifer y cleifion y byddwch yn eu gweld, a ph'un a fyddwch yn sefydlu eich practis eich hun neu'n ymuno â phractis sydd eisoes yn bodoli fel partner cyswllt, ond gallwch ddisgwyl cael cyflog cychwynnol o tua £28,407 ar gyfartaledd.

 

Modiwlau

Mae hon yn rhaglen Feistr â strwythur penodol ac mae pob modiwl yn orfodol. Yn ystod y pedair blynedd, byddwch yn dilyn modiwlau cynyddol ddatblygedig mewn anatomeg a ffisioleg, sgiliau osteopathig, pathoffisioleg a therapiwteg, gan arwain at draethawd hir yn eich blwyddyn olaf.

Osteopatheg