Therapi Galwedigaethol, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Occupational therapist supporting patient

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs Therapi Galwedigaethol yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn amrywiol a hanfodol hwn.

Gweithia therapyddion galwedigaethol i rymuso pobl i ddatblygu, cynnal neu wella ystod amrywiol o weithgareddau sy'n berthnasol ac yn ystyrlon yn eu bywydau beunyddiol, o hunanofal sylfaenol gartref i weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, hobïau a mwy. Trwy gydol y cwrs integredig hwn, byddwch yn dysgu'r sgiliau i helpu pobl i oresgyn anawsterau a achosir gan salwch, anabledd, damweiniau neu heneiddio. Gallai hyn gynnwys defnyddio cymhorthion ac addasiadau, addasu tasgau neu ddatblygu sgiliau newydd.

Mae'r cwrs yn dilyn dyluniad troellog wedi'i seilio ar 5 thema cwricwlwm allweddol i'ch helpu chi i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau, y ddealltwriaeth a'r hyder sy'n ofynnol i fod yn gymwys i wneud cais i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) i ddod yn therapydd galwedigaethol cofrestredig:

  • Cysyniadau Galwedigaethol ar gyfer Llesiant ac Ymarfer
  • Gwella Therapi Galwedigaethol
  • Lleoli Ymarfer
  • Proffesiynoldeb ac Arweinyddiaeth
  • Ymchwil, Ymholiad a Digideiddio

PAM THERAPI GALWEDIGAETHOL YN ABERTAWE?

Mae gan ein staff addysgu flynyddoedd lawer o brofiad fel therapyddion galwedigaethol, gan weithio mewn amrywiaeth o leoliadau, megis y GIG, Gofal Cymdeithasol, sectorau preifat a’r trydydd sector. Yn ôl ein myfyrwyr, ein brwdfrydedd a'n hangerdd sydd yn eu cymell ac yn eu hysbrydoli i weithio'n galed, i feddwl yn wahanol ac i lwyddo.

Mae'r cwrs wedi ei gymeradwyo ac yn achrededig gan Gyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a Ffederasiwn Therapyddion Galwedigaethol y Byd.

Mae holl aelodau'r tîm addysgu yn therapyddion galwedigaethol cofrestredig, sy'n darparu arbenigedd broffesiynol a gwybodaeth ddamcaniaethol.

Os gallwch chi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu'n llawn gan Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, a chael cyllid cynhaliaeth hefyd a benthyciad ar gyfradd ostyngol gan Gyllid Myfyrwyr.

Gweler ein tudalen we am gyllid y GIG i wirio eich cymhwysedd am gyllid cyn ymgeisio

EICH PROFIAD THERAPI GALWEDIGAETHOL

Mae ein cyfleusterau rhagorol yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys ystafelloedd clinigol realistig fel y gallwch ddysgu sgiliau ymarferol mewn amgylchedd diogel, dan oruchwyliaeth, cyn eu defnyddio mewn sefyllfa bywyd go iawn. Bydd gennych fynediad at brofiadau'r gweithle yn y gweithle ar draws Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol eraill.

Addysgir eich cwrs ar Gampws Parc Singleton wrth ymyl golygfeydd godidog Penrhyn Gŵyr, a chynhelir 30 wythnos o addysgu mewn lleoliadau gwaith clinigol allweddol o fewn y GIG a chyfleusterau cymunedol.

 

Bydd gennych fynediad at brofiadau'r gweithle yn y gweithle ar draws Byrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol eraill.

GOFALWYR THERAPI GALWEDIGAETHOL

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn eich galluogi i wneud cais i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) i ddod yn therapydd galwedigaethol cofrestredig. Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £28,407 yn codi i £50,056 ar gyfer Therapydd Galwedigaethol hynod brofiadol.

Mae Therapi Galwedigaethol yn yrfa werth chweil sy'n eich galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i annibyniaeth ac ansawdd bywyd pobl. Mae yna lawer o gyfleoedd i arbenigo, er enghraifft gweithio gydag oedolion hŷn, mewn gwasanaethau adsefydlu, gofal cymdeithasol neu gyda phlant, pobl â phroblemau iechyd meddwl neu sydd ag anabledd dysgu.

Modiwlau

Modiwlau.

Therapi Galwedigaethol

Therapi Galwedigaethol