Ymarfer Clywedeg Sylfaenol, Tystysgrif Addysg Uwch

Gwrs modiwlaidd rhan-amser 18 mis,

audiology

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Clywedegol Sylfaenol yn gwrs rhan-amser 18 mis, wedi'i anelu at Gynorthwy-ydd GIG neu Awdiolegwyr Cyswllt a enwebir gan eu Pennaeth Gwasanaeth.

Trwy gydol y cwrs byddwch chi'n ennill y wybodaeth a'r dealltwriaeth sydd eu hangen i ymarfer ar lefel Cyswllt / Cynorthwyol mewn Adran Glywedeg ysbytai, gan gefnogi asesu meintiol a rheoli cleifion â phroblemau sy'n ymwneud â chlyw.

Byddwch yn dysgu sut mae asesu gallu clyw a natur glinigol y cwrs yn darparu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y proffesiwn. Mae'r gwaith yn cynnwys trin, monitro ac atal anhwylderau'r system glywedol.

Mae rhan helaeth o hyn yn cynnwys asesu gallu clyw cleifion sy'n oedolion yn ail-fyned y gwasanaeth clywedeg, a dilynir hyn gan adfer yr amhariad. Gwneir hyn i raddau helaeth trwy osod, dilysu ac addasu teclynnau clyw ac yna hyfforddi cleifion ar sut i ddefnyddio'r teclynnau clyw yn effeithiol.

PAM YMARFER CLYWEDEGOL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE?

Mae ein cyfleusterau rhagorol yn darparu efelychiadau realistig yn y gweithle ac mae llawer o'n staff academaidd yn y Gwyddorau Iechyd yn ymarfer clinigwyr, gan ddarparu mewnwelediad ac arbenigedd proffesiynol amhrisiadwy.

Eich Profiad ym Mhrifysgol Abertawe

Byddwch hefyd yn elwa o leoliad cleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Lles, sef clinig ar y safle sy'n darparu gwasanaethau iechyd a lles i'r gymuned leol, gan gynnwys clinig clywedeg mewn cydweithrediad â'r GIG.

GYRFAOEDD CLYWEDEGOL

Mae ein cwrs wedi ei ddatblygu i roi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu eich gyrfa ac ymarfer ar lefel Gysylltiol / Cynorthwyol mewn Adran Glywedegol ysbytai.

Modiwlau

      

Ymarfer Clywedeg Sylfaenol