Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students in theatre scrubs

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein BSc Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau yn eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn proffesiwn clinigol hanfodol.

Mae Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau yn darparu gofal medrus a chyfannol er mwyn cefnogi cleifion llawfeddygol ar bob cam o lawdriniaeth, o anestheteg, sgrwbio ac adferiad. Mae Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau hefyd yn chwarae rôl hanfodol yng ngallu'r ysbyty i gynnal llawdriniaethau, gan weithio fel rhan o'r tîm llawfeddygol ac fel cyswllt i dimau ac adrannau eraill yn yr ysbyty.

Bydd astudio Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau ym Mhrifysgol Abertawe yn sicrhau bod gennych chi'r sgiliau a'r profiad gydol oes sydd eu hangen i lwyddo yn y rôl amrywiol hon, gan gwmpasu gofal amlawdriniaethol, gwaith tîm a sylw i fanylion.

Drwy gydol y rhaglen amser llawn tair blynedd o hyd hon, byddwch yn ennill gwybodaeth fanwl a dealltwriaeth o Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau cyfredol, gydag ymrwymiad i sicrhau gofal diogel ac effeithiol i'r claf amlawdriniaethol.

Mae Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau yn Abertawe'n dilyn cynllun sbiral yn seiliedig ar bedwar 'Piler Ymarfer':

  • Ymarfer Clinigol
  • Hwyluso Dysgu
  • Arweinyddiaeth
  • Tystiolaeth, Ymchwil a Datblygu

Bydd ein hymagwedd yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau, yr hyder a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i fod yn gymwys i gyflwyno cais i'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal er mwyn bod yn Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau cofrestredig ar ôl cwblhau'r cwrs.

Pam Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau yn Abertawe?

Mae ein rhaglen Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau wedi'i dylunio i'ch helpu i wneud y mwyaf o'ch amser yn y Brifysgol ac ymarfer clinigol, gan ddarparu cyfuniad o sgiliau academaidd, ymarferol a chlinigol sy'n cyfoethogi eich profiad dysgu ac yn sicrhau eich bod chi'n datblygu i fod yn Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau diogel, awtonomaidd a myfyriol. 

Byddwch chi'n cael eich addysgu gan Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau cymwysedig a gweithiwyr proffesiynol iechyd a gofal profiadol, gan gynnwys nyrsys ac arbenigwyr clinigol, sy'n dod â manyldeb academaidd, gwybodaeth broffesiynol ac arbenigedd cyfredol mewn gofal amlawdriniaethol ynghyd.

Os gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gall eich ffïoedd dysgu gael eu talu’n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

Mae Proffesiynau Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe ar y brig yn gyffredinol yn y DU (Guardian University Guide 2025).

Ewch i’n tudalen we Cyllid y GIG i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid cyn cyflwyno cais.

Eich Profiad Ymarferwr Gofal Llawdriniaethol

Yn rhan o'n Hysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddwch chi'n elwa o'n cyfleusterau o safon fyd-eang, gan gynnwys ein Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol (SUSIM). Mae ein hystafelloedd clinigol realistig - gan gynnwys theatr llawdriniaethau efelychiadol - yn eich galluogi i ddysgu sgiliau amlawdriniaethol mewn amgylchedd diogel dan oruchwyliaeth cyn eu rhoi nhw ar waith mewn sefyllfa go iawn.

Fel myfyriwr Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch hefyd yn elwa o'n partneriaethau â byrddau iechyd Bae Abertawe a Hywel Dda, ac ysbytai preifat, Sancta Maria ac Werndale, sy'n darparu profiadau realistig o weithleoedd.

Gyrfaoedd Ymarferwr Gofal Llawdriniaethol

Bydd gan raddedigion ein rhaglen Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i gyflwyno cais am gofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, gan eich galluogi i ddod yn Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau cofrestredig.

Mae gwybodaeth a sgiliau clinigol penodol Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau wedi ehangu'r rôl o ofal amlawdriniaethol i feysydd clinigol eraill, gan gynnwys:

  • Damweiniau ac Achosion Brys (A&E)
  • Unedau Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI)
  • Labordai Cathetr
  • Timau Adalwad
  • Tomograffeg Gyfrifiadurol (CT)
  • Sganio
  • Ambiwlansys Awyr

Hefyd, bydd gan raddedigion Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau nifer o gyfleoedd i arbenigo mewn meysydd megis:

  • Rheolaeth
  • Addysg
  • Ymchwil
  • Ymarfer Uwch

Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o £31,049 gan godi i £46,580 ar gyfer Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau profiadol. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau, BSc (Anrh)