Trosolwg o'r Cwrs
Yn Abertawe, byddwch chi'n dysgu codio a llawer mwy. Byddwn yn rhoi’r sgiliau i chi i greu ac arloesi er mwyn datrys problemau'r byd go iawn. O'r diwrnod cyntaf, byddwch chi'n adeiladu meddalwedd, yn archwilio technolegau newydd ac yn datblygu'r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Byddwch chi'n ymchwilio'n fanwl i feysydd y mae galw mawr amdanynt, megis deallusrwydd artiffisial (AI), seiberddiogelwch, gwyddor data, peirianneg meddalwedd a datblygu apiau symudol. Fyddwch chi ddim yn gweld offer ac ieithoedd penodol wedi’u rhestru yma, am ein bod yn diweddaru ein cwricwlwm yn gyson i gyd-fynd ag anghenion y diwydiant pan fyddwch chi'n graddio, nid yr anghenion ar ddechrau'ch gradd.
Mae ein cwricwlwm yn cael ei lywio gan fewnbwn diwydiant a'i addysgu gan arbenigwyr sy'n gweithio ar flaen y gad. O ddatblygwyr gemau a enwebwyd am BAFTA, i arbenigwyr seiberddiogelwch o fri rhyngwladol ac ymchwilwyr sy'n cydweithredu ag Airbus, Microsoft, HSBC a Siemens - mae eich darlithwyr yn rhagori mewn damcaniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth yn y byd go iawn. Byddwch yn dysgu mewn labordai â’r cyfarpar diweddaraf, yn cydweithio â'ch cyd-fyfyrwyr ac yn arddangos eich gwaith i gyflogwyr yn ein Ffair Brosiectau flynyddol. Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd - creu systemau cwmwl, dylunio apiau hygyrch, archwilio’r Rhyngrwyd Pethau neu ddatblygu technolegau nad ydynt hyd yn oed wedi'u creu eto – erbyn i chi raddio bydd gennych bortffolio sy'n arddangos eich sgiliau ac yn rhoi'r hyder i chi eu defnyddio.