Mathemateg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

3ydd yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr

Complete University Guide 2025

Students in a lecture theatre

Nid yw'n rhy hwyr i ddechrau astudio gyda ni ym mis Medi / Hydref.

Ewch i’n tudalennau Clirio am fwy o wybodaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Blwyddyn Sylfaen Integredig yn addas os nad yw'r cymwysterau angenrheidiol gennych i ddechrau'r cwrs gradd yn y flwyddyn gyntaf. Byddwch yn cael cyfle i feithrin dealltwriaeth sy'n hanfodol i gwblhau'r cwrs gradd yn llwyddiannus.

Mae'r cwrs gradd BSc llawn yn cwmpasu sail eang o fathemateg glasurol a modern. Mae'n eich galluogi i ganolbwyntio ar un agwedd ar y pwnc neu astudio amrywiaeth o ddeunydd.

Dysgwch am ein Ysgoloriaethau Mathemateg

Pam Mathemateg gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • 7eg yn y DU (Guardian University Guide 2025) 

  • 13fed yn y DU am Ansawdd Addysgu (Guardian University Guide 2025)

  • Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)

  • 20fed yn y DU am bositifrwydd cyffredinol (NSS 2025)*

Caiff eich dysgu ei lunio gan academyddion ysbrydoledig a rhyngwladol enwog gan gynnwys Dr Noemi Picco, Darlithydd a mathemategydd cymhwysol sy'n arbenigo mewn modelu iechyd ac afiechyd yn fathemategol, a'r Athro Jeff Giansiracusa, Athro Mathemateg ac arbenigwr mewn geometreg drofannol a dadansoddi data amserol.

* Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025, o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Mathemateg gyda Blwyddyn Sylfaen

  • Mae llwybr gradd hyblyg strwythuredig yn golygu eich bod yn cael cyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn, naill ai'n lleol, yn genedlaethol neu dramor.
  • Byddwch yn cael eich dysgu yn ein Foundry Cyfrifiadurol o'r radd flaenaf drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a grwpiau trafod.
  • Mae ein cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf yn cynnwys labordai ymchwil a datblygu, yn ogystal â gofodau rhwydweithio ac ysbrydoli.
  • Byddwch yn dysgu defnyddio rhesymu rhesymegol ac yn llunio dadleuon trwyadl ochr yn ochr â sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.
  • Byddwn yn eich hyfforddi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd, yn darparu sylfaen ar gyfer astudio ac ymchwil ôl-raddedig.

Cyfleoedd Cyflogaeth Mathemateg gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae ein graddedigion wedi dod yn Beiriannydd Ymchwil Gwyddonydd Data, Dadansoddwyr Ymchwil, Dadansoddwyr Risg, Actiwarïaid, Cynghorwyr Ariannol, Datblygwyr Meddalwedd ac Ystadegwyr gyda chwmnïau sy'n cynnwys BMW, British Airways, Zurich Bank, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Shell.

Yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am Fathemateg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau

Modiwlau

Byddwch yn astudio'r modiwlau gorfodol canlynol ac yn dewis o blith detholiad o fodiwlau dewisol yn ystod eich cwrs gradd. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio modiwl prosiect 30 credyd.

Mathemateg gyda Blwyddyn Sylfaen