Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
- Ysgrifennu academaidd
- Mathemateg ac ystadegau
- Meddwl critigol
- Rheoli amser
- Sgiliau digidol
- Sgiliau cyflwyno
- Cymryd nodiadau
- Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
- Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ein darlithwyr yn dilyn polisi ‘drws agored’ felly gallwch sgwrsio â nhw am unrhyw bryderon sydd gennych. Nid oes rhaid i'r rhain ymwneud â'r cwrs yn unig; mae ein staff academaidd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw beth yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae gan bob cwrs gynrychiolydd myfyrwyr. Mae'r cynrychiolwyr yno i sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed. Eu rôl yw gwrando ar eich barn ac adrodd yn ôl, mynychu cyfarfodydd rheolaidd a gwneud yn siŵr bod y bobl sy'n gallu gwneud newidiadau yn gwrando ar y bobl sydd wir yn bwysig – chi!
Rydym yn cynnig mentora academaidd a mentora cyfoedion. Caiff Mentor Academaidd ei neilltuo i bob myfyriwr ar ein cyrsiau gradd, ac nid yn unig y bydd y Mentor yn cynnig arweiniad academaidd i chi, ond bydd hefyd yn rhoi cyngor ar gael gafael ar gymorth gyda phroblemau personol. Mae ein cynllun mentora cyfoedion ar waith er mwyn helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu yma ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn cael cyfle i siarad â'ch mentor a fydd yn gallu dweud wrthych am ei brofiadau fel myfyriwr, a gallwch hefyd sgwrsio am fywyd fel myfyriwr. Mae'r cynllun mentora cyfoedion yn ffordd wych o gwrdd â myfyrwyr ac ehangu eich cylch o ffrindiau tra byddwch yn Abertawe.
Gallwch hefyd gael cymorth gyda phroblemau personol gan ein hystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr, fel CampusLife, Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr a'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd.