Biocemeg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students in Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Biocemeg yn hanfodol i astudio a thrin clefydau, datblygu cynhyrchion fferyllol, a'r berthynas gymhleth â'n hamgylchedd.

Drwy gydol y rhaglen ryngddisgyblaethol hon, byddwch yn dysgu am y prosesau cemegol a geir mewn organebau byw a sut mae celloedd yn gweithio ar y lefelau is-gellog a moleciwlaidd.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o weithrediad biocemegol organebau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.

Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect rhagorol, gan ddysgu sut i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Mae maes cyffredinol biocemeg yn creu amrywiaeth eang o raddedigion sy'n mynd ymlaen i yrfaoedd amrywiol, gan gynnwys gweithio mewn labordy academaidd neu ymchwil ddiwydiannol, gwerthu cynhyrchion fferyllol, y diwydiant bwyd a diodydd, cyfraith patentau, ysgrifennu meddygol, ymgynghori, ymarfer meddygol neu bydd rhai yn ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol.

Pam Biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn astudio yn Ysgol Feddygaeth flaenllaw Abertawe, ar ein Campws Parc Singleton, mewn parcdir hyfryd â golygfeydd dros Fae Abertawe, yn agos at Benrhyn Gŵyr.

Yn ystod eich amser yma, bydd gennych gyfleoedd i fanteisio ar gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys cyfarpar bioddadansoddi, megis cromatograffaeth hylifau perfformiad uchel, cromatograffaeth nwy, sbectrometreg màs, cyfarpar dadansoddi DNA a phroteinau, a dadansoddi delweddau ar gyfrifiadur ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellol.

Nodau ein rhaglen Biocemeg yw:

  • Sicrhau bod gennych yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi i weithio mewn amrywiaeth o yrfaoedd neu i ymgymryd ag ymchwil neu astudiaethau pellach ym meysydd biocemeg, geneteg, gwyddoniaeth, meddygaeth a diwydiannau biotechnoleg eraill.
  • Eich galluogi i gyflwyno, deall, gwerthuso a dehongli data ansoddol a meintiol, datblygu dadleuon a llunio barn, yn seiliedig ar y cysyniadau moleciwlaidd sylfaenol sy'n berthnasol i gymhwyso geneteg mewn meddygaeth.
  • Eich trawsnewid yn fyfyriwr graddedig sydd â'r rhinweddau angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth arbenigol, cyfrifoldeb personol, y gallu i wneud penderfyniadau mewn cyd-destunau cymhleth ac ansicr a'r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun.
  • Meithrin a datblygu'r sgiliau a'r arferion myfyriol sy'n angenrheidiol i gefnogi dysgu gydol oes.

Eich profiad ym maes Biocemeg

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi astudio modiwlau craidd ym maes y gwyddorau biofoleciwlaidd, ochr yn ochr â modiwlau arbenigol sy'n ymwneud â datblygiadau ym maes biocemeg.

Mae'r pynciau yn cynnwys ffisioleg, imiwnoleg, cemeg, biocemeg, niwrowyddoniaeth, ffarmacoleg, tocsicoleg, economeg ffarmacoleg a geneteg, ochr yn ochr ag arbenigeddau pwnc sy'n cynnwys biocemeg, imiwnopatholeg, biowybodeg, meddygaeth aildyfu a geneteg canser.

Caiff ymagwedd integredig ei mabwysiadu at hyfforddi ac asesu, gan ymgorffori sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy wrth archwilio egwyddorion craidd, yn ogystal â chwestiynau gwyddonol sy'n dod i'r amlwg. Mae'r gweithgarwch addysgu'n tynnu ar yr arbenigedd ymchwil rhagorol a geir yn yr Ysgol Feddygaeth, gan sicrhau y gallwch ddysgu am y datblygiadau diweddaraf a mwyaf arloesol yn y maes.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan gyfoethogi’ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Mae ein gradd MSci 4 blynedd yn radd israddedig uwch a chanddi flwyddyn meistr integredig. Byddwch yn treulio’r flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc neu MSci. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Biocemeg

Nod cyffredinol y rhaglen hon yw hyfforddi gwyddonwyr sydd â'r wybodaeth graidd angenrheidiol a'r sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd y bydd eu hangen arnynt i lwyddo yn amgylcheddau byd-eang newidiol y gwyddorau meddygol a bywyd.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn elfen annatod o'r cwrs cyfan. Mae'n hanfodol bod pob gwyddonydd yn gallu dadansoddi a chyflwyno data - felly mae holl brosiectau'r flwyddyn olaf yn cynnwys elfen o ddadansoddi data i sicrhau y cewch gyfle i ddatblygu sgiliau perthnasol yn y maes hwn.

Bydd amrywiaeth o gyfleoedd unigryw ar gael i chi, gan gynnwys rhwydweithio ag academyddion, ymchwilwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol profiadol fel rhan o'ch modiwlau, prosiectau blwyddyn olaf, lleoliadau gwaith a/neu interniaethau.

Mae gradd mewn Biocemeg yn agor y drws i amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd amrywiol gan gynnwys: 

  • Datblygu cynhyrchion fferyllol 
  • Biotechnoleg ddiwydiannol
  • Biodanwyddau
  • Amaethyddiaeth
  • Biowybodeg

Ar ôl graddio, gallwch fynd ymlaen i ymgymryd ag amrywiaeth o rolau, gan gynnwys yn y meysydd canlynol:

  • Sector masnachol y gwyddorau meddygol a bywyd (ymchwil, gwerthu a marchnata ar gyfer cwmnïau fferyllol, technegydd labordy)
  • Ymchwil yn y gwyddorau meddygol a bywyd (myfyriwr PhD, technegydd mewn sefydliad academaidd, y sector ymchwil nid-er-elw)
  • Rheoleiddio'r gwyddorau meddygol a bywyd (yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr Asiantaeth Rheoleiddio, Safonau Bwyd)
  • Cymhwyso fel gweithiwr iechyd proffesiynol (ar ôl rhaglen astudio bellach, megis Meddygaeth i Raddedigion, Cydymaith Meddygol, cyrsiau milfeddygol neu ddeintyddol).
  • Cymhwyso fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol (ar ôl rhaglen astudio bellach megis y Gyfraith i Raddedigion, yn enwedig ar gyfer gwaith sy'n ymwneud ag eiddo deallusol a phatentau).
  • Addysgu'r gwyddorau a thechnoleg (ar ôl rhaglen astudio bellach, mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach)

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Biocemeg, BSc (Anrh)

Biocemeg, MSci (Anrh)

Biocemeg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Biocemeg gyda Blwyddyn ar Leoliad, BSc (Anrh)

Biocemeg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Biocemeg gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)