Biocemeg Feddygol, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students in lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Biocemeg Feddygol wrth wraidd meddygaeth fodern ac yn hanfodol i'r ffordd rydym yn deall achosion ac effeithiau clefydau a sut mae triniaethau newydd yn cael eu datblygu.

Mae Biocemeg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe yn llwyddo i bontio meddygaeth a gwyddoniaeth, gan sicrhau eich bod yn datblygu'r wybodaeth graidd a’r sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd sydd eu hangen i weithio ar y lefelau uchaf mewn diwydiannau gwyddoniaeth, meddygaeth, fferyllol a biowyddoniaeth.

Byddwch yn ennill gwybodaeth sylfaenol am ffisioleg, biocemeg, geneteg ac imiwnoleg, wrth ddatblygu dealltwriaeth ddofn o swyddogaeth fiocemegol organebau byw, wrth i chi astudio'r prosesau cemegol sy'n digwydd ac astudio swyddogaeth celloedd ar lefelau isgellog a moleciwlaidd.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn meithrin sgiliau dadansoddi a rheoli prosiectau rhagorol wrth i chi ddysgu sut i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd fel MSci 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd.   Mae ein rhaglen MSci yn arwain at gymhwyster meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gwyddonol gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.

Pam Biocemeg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gartref i gyfleusterau ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf, a byddwch yn astudio ar ein Campws Parc Singleton, mewn parcdir hyfryd â golygfeydd dros Fae Abertawe, yn agos at Benrhyn Gŵyr.

Byddwch yn elwa o fynediad i'n cyfleusterau arloesol, fel:

  • HPLC
  • Cromatograffaeth nwy
  • Sbectrometreg Màs
  • Offer dadansoddi DNA a phrotein
  • Dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog

Mae Biocemeg Feddygol yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • 9fed yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)*
  • Yn yr 11eg safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)**

Gan mai dyma un o'n cyrsiau Llwybrau i FeddygaLlwybrau i Feddygaeth eth, ar yr amod eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion, a'ch bod chi wedi cwblhau'r llwybr yn llwyddiannus, byddwch yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer ein cwrs blaenllaw Meddygaeth (i Raddedigion) MBBCh.

*Wedi'i asesu o dan Gwyddor Fiofeddygol

*Wedi'i asesu o dan Gwyddor Fiofeddygol

Eich profiad ym maes Biocemeg Feddygol

Mae Biocemeg Feddygol yn Abertawe yn cynnig cyfuniad heb ei ail o ragoriaeth addysgu ac arfer arloesol. Byddwch yn elwa o amgylchedd dysgu cefnogol, dan arweiniad ein tîm academaidd arbenigol, y mae llawer ohonynt yn weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil geneteg.

Bydd eich astudiaethau'n cael eu cyfoethogi trwy gydweithio'n rheolaidd â chydweithwyr ym maes gofal iechyd, y byd academaidd, diwydiant, a'r cyhoedd yn gyffredinol, gan wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau, a'ch galluogi i addasu i yrfaoedd, ymchwil, ac astudiaethau pellach ym maes biocemeg, geneteg, a gwyddoniaeth.

Byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r arferion myfyriol sy'n angenrheidiol i gefnogi dysgu gydol oes, a'r gallu i gyflwyno, gwerthuso a datblygu dadleuon ar y cysyniadau moleciwlaidd sylfaenol sy'n berthnasol i gymhwyso geneteg mewn meddygaeth, gan arfer menter a gwybodaeth arbenigol.

Yn Abertawe rydym yn cydnabod bod galw mawr am sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau graddedigion Biocemeg Feddygol. Bydd gennych gyfleoedd unigryw i rwydweithio ag academyddion, ymchwilwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sefydledig fel rhan o'ch astudiaethau, gyda'r potensial ar gyfer cyfleoedd gyrfa amhrisiadwy.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Cyfleoedd Cyflogaeth Biocemeg Feddygol

Mae sgiliau cyflogadwyedd wedi cael eu mewnosod ar draws Biocemeg Feddygol yn Abertawe. Byddwch wedi ennill yr wybodaeth graidd angenrheidiol, y sgiliau ymarferol a'r sgiliau cyflogadwyedd i lwyddo yn yr amgylchedd byd-eang, newidiol ar gyfer gwyddorau meddygol a bywyd.

Bydd graddedigion yn gadael â sgiliau hanfodol o ran cyflwyno a dadansoddi data, a'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i lwyddo fel gwyddonydd biofoleciwlaidd.

Mae graddedigion Biocemeg Feddygol o Abertawe wedi'u paratoi'n dda ar gyfer amrywiaeth o gyrchfannau gyrfa, gan gynnwys:

  • Sector masnachol y gwyddorau meddygol a bywyd (ymchwil, gwerthu a marchnata ar gyfer cwmnïau fferyllol, technegwyr labordy
  • Ymchwil Meddygol a Gwyddor Bywyd – technegydd yn y byd academaidd, y sector ymchwil dielw, astudiaethau pellach fel myfyriwr PhD
  • Rheoleiddio'r gwyddorau meddygol a bywyd - yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, yr Asiantaeth Rheoleiddio Bwyd, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
  • Addysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach (ar ôl astudiaethau pellach)

Fel Llwybr i Feddygaeth, mae ein rhaglen hefyd yn sylfaen ardderchog i raddedigion hyfforddi am rolau â ffocws mwy clinigol, gan gynnwys Meddygaeth i Raddedigion (MBBCh).

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Biocemeg Feddygol, BSc (Anrh)

Biocemeg Feddygol, MSci (Anrh)

Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn ar Leoliad, BSc (Anrh)

Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Biocemeg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)