Er mwyn bod yn gymwys i gyflwyno cais am Fferylliaeth, rhaid eich bod yn disgwyl cyflawni'r canlynol:
Safon Uwch/Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch: BBC-CCD y mae'n rhaid iddo gynnwys Cemeg ac o leiaf un pwnc STEM arall, h.y. Bioleg, Ffiseg, Mathemateg a Seicoleg. Caiff Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru ei hystyried yn lle trydydd pwnc Safon Uwch.
Y Fagloriaeth Ryngwladol: 24-31 o bwyntiau, y mae'n rhaid iddynt gynnwys Cemeg Lefel Uwch yn ogystal ag un pwnc STEM arall ar Radd 4 neu'n uwch.
Ar gyfer ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, gofynnir am sgôr gyffredinol IELTS o 6.5 (neu gyfwerth) ac o leiaf 6.0 ar gyfer pob elfen. Cewch ragor o wybodaeth ar ein tudalennu Myfyrwyr Rhyngwladol.
BTEC: Teilyngdod i Ragoriaeth fel arfer, ynghyd â phroffil Cemeg da yn ddelfrydol.
Yn ogystal ag un o'r mathau o gymhwyster uchod, mae gofyn i bob ymgeisydd gael:
TGAU: Saesneg a Mathemateg o leiaf Radd C (Cymru a Lloegr cyn-2017) neu Radd 4 (Lloegr ar ôl 2017).
Rydym yn derbyn cymwysterau cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.
Caiff cymwysterau eraill y DU a rhai rhyngwladol eu hystyried fesul achos - cysylltwch â ni er mwyn eu trafod.
Hefyd, rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol sydd wedi astudio ystod o gymwysterau - cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth, er mwyn dysgu rhagor am eich cymwysterau ewch i'n Tudalennau i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Bydd angen geirda addysgol boddhaol ar bob ymgeisydd.
Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad a'r meini prawf dethol yn cael eu gwahodd i gyfweliad, y gellir ei gynnal wyneb yn wyneb neu dros y ffôn/galwad fideo. Mae ein Cyngor Cyfweliadau yn esbonio mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl.
Os ydych yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd unrhyw gynnig lle yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd/yr Heddlu boddhaol neu gyfwerth gan eich gwlad gartref yn ogystal â datganiad iechyd galwedigaethol ac asesiad cyn dechrau eich astudiaethau. Darperir rhagor o fanylion os byddwch yn derbyn cynnig.
Rhestrir gofynion mynediad Addasrwydd i Ymarfer o dan y Gofyniad Derbyn Ychwanegol.