Paratori Ar Gyfer Eich MMI Fferylliaeth

Paratoi ar gyfer eich MMI (Cyfweliad Aml-dasg Cryno)

Cyngor ar Gyfweliadau MMI Fferylliaeth

Student doing a consultation as a Pharmacist

PAN DDAW I'CH CYFWELIAD, AM BETH YR YDYM YN CHWILIO?

Peidiwch â chynhyrfu, pan ddaw i gyfweliad Fferylliaeth yn Abertawe, rydym eisiau'r gorau oddi wrthych chi. Yn union fel pan ymunwch â ni i astudio Fferylliaeth rydym wedi ymrwymo i gael y gorau gennych chi, darganfod beth sy'n eich cyffroi, eich helpu i ffynnu a'ch paratoi ar gyfer eich gyrfa fel Fferyllydd.

Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r broses gyfweld ar-lein ar gyfer y rhaglen MPharm (Anrh.) Fferylliaeth 4 blynedd. Mae fformat y cyfweliad ar-lein ar gyfer y radd MPharm (Anrh.) 5 mlynedd gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) ychydig yn wahanol ond mae'n asesu'r un sgiliau a chymwyseddau.

Felly nid yw'r MMI yn rhywbeth sydd wedi'i gynllunio i'ch dychryn. Mae'r gorsafoedd MMI yn syml ac mae'r tîm wrth law ar y diwrnod yno i'ch helpu chi i berfformio hyd eithaf eich gallu; dyna pam rydym wedi datblygu'r canllaw hwn i MMI yn Abertawe i'ch helpu chi i baratoi. Rydym eisiau dod i'ch adnabod, ac yna gweld sut rydych chi'n adlewyrchu'r cymwyseddau allweddol sy'n angenrheidiol i ddod yn Fferyllydd; i ni y rhain yw:

DATRYS PROBLEMAU

Mae angen i fferyllwyr allu rheoli sefyllfaoedd anodd. Fel Fferyllydd rydych chi'n mynd i wynebu problemau o ddydd i ddydd, p'un a yw'r rhain yn bos rhyngweithio cyffuriau cymhleth neu'n rheoli sefyllfaoedd anodd yn ymarferol.

Beth i'w ddisgwyl gan yr orsaf hon: Byddwn yn cyflwyno sefyllfa heriol i chi ac yn gofyn sut y byddech chi'n mynd i'r afael â'r broblem hon, neu beth fyddech chi'n ei wneud yn y sefyllfa hon?

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano: Rydyn ni eisiau gallu gweld sut rydych chi'n mynd i'r afael â'r broblem hon, sut rydych chi'n cydbwyso'r dadleuon a'r gwrthddadleuon, ac yna sut y byddwch chi'n gorffen gyda dull gweithredu. Nid ydym yn edrych i brofi'ch gwybodaeth yma, rydym yn edrych i weld sut rydych chi'n meddwl. Nid oes "ateb cywir" i broblem bob amser, ond mae gennym ddiddordeb mewn sut y dewch i benderfyniad.

Student Pouring a Medicine

MOESEG

Mae angen i fferyllwyr ymarfer yn foesegol bob amser. Mae Safonau'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Fferyllol yn greiddiol i Fferyllwyr.

Beth i'w ddisgwyl gan yr orsaf hon: Gofynnwn i chi sut mae un o'r Safonau hyn yn berthnasol i senario benodol. Bydd angen i chi feddwl a deall beth mae'r Safon hon yn ei olygu i weithiwr proffesiynol Fferylliaeth a sut y gallent fod yn berthnasol mewn sefyllfa. (Peidiwch â phoeni serch hynny, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael copi o'r Safonau mewn da bryd cyn eich MMI).

Yr hyn yr edrychwn amdano: Ar y lefelau mwyaf sylfaenol, edrychwn i weld a ydych yn deall y safonau sy'n ofynnol i ymarfer fel Fferyllydd, bod gennych farn gadarn a moesegol a phan fyddwch mewn sefyllfa anodd bydd y rhain ar flaen eich meddwl, gweithredoedd ac ymarfer. Gwerthfawrogwn eich bod ond ar ddechrau’ch taith Fferylliaeth a byddwch yn cael eich gwerthuso yn unol â hynny.

Pills being counted

GWYBODAETH AM Y PROFFESIWN

Nid ymgymryd â gradd arall yn unig yw ymgymryd â MPharm, ond y cam cyntaf ar eich ffordd i yrfa mewn Fferylliaeth - boed hynny mewn gofal cleifion, rheoli meddyginiaethau neu hyd yn oed ddarganfod a datblygu cyffuriau.

Beth i'w ddisgwyl gan yr orsaf hon: Oce, mae'r un hon ychydig yn fwy am eich gwybodaeth. Yn syml, rydym am wybod am eich dealltwriaeth o'r proffesiwn yr ydych yn bwriadu ymuno ynddo. Dywedwch wrthym beth yw Fferylliaeth, beth mae Fferyllwyr yn ei wneud, sut mae'r rôl yn datblygu ac efallai hyd yn oed ychwanegu’r hyn sy'n eich cyffroi am yr yrfa hon.

Yr hyn yr ydym yn edrych amdano: Fferylliaeth yw'r 3ydd proffesiwn gofal iechyd cofrestredig mwyaf yn y DU, ac rydym yn teimlo er mwyn i'n myfyrwyr fod yn llwyddiannus ei bod yn bwysig eich bod chi'n gwybod fel ymgeisydd MPharm, beth yw Fferylliaeth, beth mae Fferyllwyr yn ei wneud a sut mae'r rôl yn datblygu ac yn newid, ac eich dangos i ni fod gennych angerdd am y pwnc.

Student in a Pharmacy explaining drugs

SGILAU RHIFEDD

Mae sgiliau rhifedd yn hanfodol i nifer o elfennau o fod yn Fferyllydd; yn enwedig ym maes diogelwch cleifion a rheoli meddyginiaethau mewn lleoliadau iechyd a gofal. Weithiau gall y gwahaniaeth rhwng dos therapiwtig a dos gwenwynig fod yn iawn, felly mae sgiliau rhifedd o’r pwys mwyaf.

Beth i'w ddisgwyl gan yr orsaf hon: Mae'r orsaf MMI hon yn weddol hawdd a syml, yma fe gyflwynir cyfres o gwestiynau i chi sy'n canolbwyntio ar sgiliau rhifedd sylfaenol sy'n ymwneud â Fferylliaeth.

Yr hyn yr ydym yn edrych amdano: Byddwch yn sefyll y prawf hwn o dan oruchwyliaeth a bydd gwerthusiad o'ch sgiliau rhifedd yn seiliedig ar nifer yr atebion cywir a roddwch.

Student checking a script

GWEITHIO TÎM

Mae fferyllwyr yn aelodau annatod o'r tîm gofal iechyd amlddisgyblaethol, felly mae gallu gweithio'n effeithiol gydag eraill yn sgil bwysig i'w datblygu.

Beth i'w ddisgwyl gan yr orsaf hon: Bydd yr ymarfer grŵp gorsafoedd MMI (nifer o gyfweliadau byr) yn gofyn i chi weithio gydag aelodau eraill y tîm i ddatrys problem. Byddwch ond yn gallu datrys y broblem drwy gydweithio. Bydd aelod o staff academaidd yn arsylwi arnoch chi ac aelodau eraill y grŵp wrth i chi weithio gyda'ch gilydd trwy dasg.

Yr hyn yr ydym yn edrych amdano: Rydym yn deall efallai y bydd eich cyfweliad yn hynod anodd, felly ni fydd yr arsylwr yn meintioli eich perfformiad unigol, dim ond edrych ar sut rydych chi'n perfformio mewn grŵp, e.e. gwirio nad ydych yn ddiystyriol tuag at ymgeiswyr eraill.

Student doing a team work exercise.