Trosolwg o'r Cwrs
Mae geneteg yn faes cyffrous sy'n symud yn gyflym, yn trawsnewid ein dealltwriaeth o fywyd ac yn ysgogi arloesi ar draws gwyddoniaeth a meddygaeth. O ddiagnosis a thrin clefydau i ddatblygu deunyddiau fferyllol newydd, therapïau personol, peirianneg genynnau, biotechnoleg ac astudio esblygiad, bioamrywiaeth a phathogenau, bellach, geneteg yw sylfaen llawer o ddatblygiadau gwyddonol pwysicaf ein hoes.
Mae ein gradd BSc (Anrh) /MSci (Anrh) mewn Geneteg yn darparu dealltwriaeth fanwl o flociau adeiladu sylfaenol bywyd ar y ddaear. Byddwch yn cael profiad ymarferol o dechnegau a ddefnyddir i ddadansoddi mynegiadau genynnol, rhyngweithiadau protein, strwythur a niwed DNA, a delweddu biofoleciwlaidd a chellol, ochr yn ochr â dulliau cyfrifiadura uwch a ddefnyddir mewn ymchwil geneteg fodern.
Trwy gydol y rhaglen, byddwch yn meithrin sgiliau dadansoddol, datrys problemau a rheoli prosiect cryf, gan ddysgu sut i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni ymchwil effeithiol.
Mae'r radd rhyngddisgyblaethol anrhydedd sengl hon, yn tynnu ar fodiwlau a rennir ar draws yr Adran a'r Ysgol yn ehangach, gan roi profiad dysgu eang ac amrywiol i chi. Bydd gennych chi hefyd y cyfle i wella eich datblygiad academaidd a phroffesiynol drwy flwyddyn dramor ryngosodol neu flwyddyn mewn diwydiant.