Geneteg Feddygol, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Students in Lab

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudiaeth geneteg feddygol yn faes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac yn cael effaith enfawr ar feddygaeth, gan ein helpu i ddeall, diagnosio a thrin llawer o glefydau dynol.

Bydd ein gradd Geneteg Feddygol yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer bywyd. Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiad genynnau, y ffordd y mae proteinau yn rhyngweithio, strwythur DNA a’r difrod iddo, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddol cyfrifiadurol uwch.

Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

 

Pam Geneteg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.

Mae’r radd hon yn rhan o’r rhaglen Llwybr i Feddygaeth ‘Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer’. Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y Llwybr hwn, gallwn eich gwarantu y cewch gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth Mynediad i Raddedigion.

Eich profiad ym maes Geneteg Feddygol

Gallwch ddewis astudio Geneteg Feddygol fel:

  • BSc 3 blynedd
  • BSc 4 blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant ar ffurf blwyddyn lleoliad gwaith.
  • BSc 4 blynedd gyda blwyddyn dramor, neu
  • MSci 4 blynedd gyda chymhwyster lefel meistr integredig

Gan astudio'r BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra'ch gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfa, neu gynlluniau ar gyfer astudiaeth bellach.

Yn ogystal, mae'r rhaglen 4 blynedd gyda blwyddyn Lleoliad yn cynnig blwyddyn leoliad ychwanegol rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, gan roi'r cyfle i chi gael profiad o waith mewn diwydiant, a'ch galluogi i fagu hyder a chael profiad yn y byd go iawn.

Pa bynnag gymhwyster a ddewiswch, byddwch yn elwa ar arbenigedd ein staff academaidd sy'n weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil biolegol moleciwlaidd, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arfer sydd ar flaen y gad.

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Ddim yn meddwl eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad? Beth am ystyried ein BSc Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen?

Cyfleoedd Cyflogaeth Geneteg Feddygol

Gyda gradd mewn Geneteg Feddygol, mae cyfleoedd gyrfa yn amrywiol ac yn helaeth. Maent yn cynnwys:

  • Ymchwil meddygol,
  • Diwydiant fferyllol a gwyddorau iechyd,
  • Astudiaethau ôl-raddedig (MSc, MRes, PhD)
  • Cwnsela genetig,
  • Gwyddonydd clinigol,
  • Meddygaeth mynediad i raddedigion
  • Cydymaith Meddygol
  • Dysgu
  • Ysgrifenydd gwyddonol
  • Biowybodeg

Mae’r radd hefyd yn darparu sylfaen ddelfrydol ar gyfer astudiaethau pellach i ddod yn feddyg, ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein graddau Geneteg Feddygol trwy fynd i'n Hysbysiad Hwylus Gwyddoniaeth Fiofeddygol.

Modiwlau

Mae strwythur y BSc 3 blynedd fel a ganlyn:

Mae eich blwyddyn gyntaf wedi’i ffurfio o fodiwlau sy’n rhoi sylw i sylfeini gwyddonol hanfodol, gan gynnwys geneteg esblygol a moleciwlaidd, dadansoddi genetig, bioleg celloedd ewcaryotig, a ffisioleg ddynol.

Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth ymhellach, gan astudio pynciau arbenigol gan gynnwys geneteg ddynol a meddygol, datblygiad anifeiliaid, imiwnopatholeg ddynol, tocsicoleg enetig, geneteg canser, a meddygon, cleifion ac amcanion meddygaeth.

Yn ystod eich blwyddyn derfynol byddwch yn cyflawni prosiect ymchwil annibynnol dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol.

Os dewiswch ymgymryd â blwyddyn dramor, byddwch yn gwneud hyn rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn astudio fel a nodir uchod.

Geneteg Feddygol

Medical Geneticswith a Placement Year, BSc (Hons)

Medical Genetics with a Year Abroad, BSc (Hons)