Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Lle mae Gwyddoniaeth a Meddygaeth yn Dod Ynghyd

Students in lab

Trosolwg o'r Cwrs

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, BSc (Anrh) – Cod UCAS B100

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh) – Cod UCAS B10P

BSc Gwyddorau Meddygol Cymhwysol gyda Blwyddyn Dramor - Côd UCAS B10A

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, MSci – Cod UCAS B1MO

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd Gwyddorau Meddygol Cymhwysol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh) - Cod UCAS B146

Gallwch ennill sylfaen drwyadl yn y gwyddorau sy’n tanategu meddygaeth fodern gyda yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol.

Byddwch yn astudio amrywiaeth gynhwysfawr o bynciau sy’n cynnwys anatomi a ffisioleg ddynol, bioleg celloedd, geneteg, ffarmacoleg a niwrowyddoniaeth, ynghyd â’u perthnasedd clinigol a chymhwysol.

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o sut mae’r corff dynol yn gweithio, beth sy’n digwydd pan fydd yn mynd o’i le, sut yr ydym yn trin anhwylderau ar hyn o bryd, a’r potensial ar gyfer therapiwteg newydd.

Mae yn Gwyddorau Meddygol Cymhwysol darparu sylfaen gynhwysfawr sy’n berthnasol ar gyfer gyrfa mewn ymchwil labordy, meddygaeth a menter fasnachol yn y gwyddorau bywyd.  Mae gennym ddewis o 3 llwybr Cyflogadwyedd yn eich ail flwyddyn (yn amodol ar gymhwysedd):  Y Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer,  Menter ac Arloesi, ac Ymchwil Gwyddorau Meddygol.

Pam Gwyddorau Meddygol Cymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe?

  • 8fed yn y DU am Pynciau sy'n berthynol i Feddygaeth (Guardian University Guide 2026)
  • 9fed yn y DU galluadau gyrfa (asesu o dan 'Gwyddor Biofeddygol', Guardian Univeristy Guide 2026)
  • Mae 98% o  raddedigion Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025).

Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol yn rhoi cyfle i chi deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch diddordebau penodol, eich amcanion o ran gyrfa, a’ch cynlluniau ar gyfer astudio ôl-radd.

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil ac addysgu o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys yr ystafelloedd anatomi a’r labordai ymchwil.

Mae ein gradd BSc 3 blynedd yn rhan o'r rhaglen Llwybr at Feddygaeth 'Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer'. Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y Llwybr hwn, gallwn eich gwarantu y cewch gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion.

Eich profiad ym maes Gwyddorau Meddygol Cymhwysol

Gallwch ddewis astudio'r Gwyddorau Meddygol Cymhwysol fel:

  • BSc 3 blynedd
  • BSc 4 blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant ar ffurf blwyddyn lleoliad gwaith
  • BSc 4 blynedd gyda blwyddyn dramor, neu
  • MSci 4 blynedd gyda chymhwyster lefel meistr integredig

Ar y cynllun BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra eich gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau o ran gyrfa neu eich cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach. 

Mae'r rhaglen 4 blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant yn cynnig blwyddyn lleoliad gwaith ychwanegol rhwng yr ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf, gan roi’r cyfle i chi ennill profiad o weithio ym myd diwydiant, magu hyder a chael profiad yn y byd go iawn

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Mae ein gradd MSci 4 blynedd yn radd israddedig uwch a chanddi flwyddyn meistr integredig. Treulir y flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddorau Meddygol Cymhwysol

Gan roi sylw mawr i fentergarwch ac arloesi, mae ein BSc yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ddatblygol, datblygu cynnyrch, cynhyrchion fferyllol, neu fiotechnoleg.

Mae hefyd yn darparu sylfaen mynediad-i-raddedigion arbennig ar gyfer astudiaethau clinigol, gan gynnwys meddygaeth neu waith ymchwil ôl-radd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein graddau Gwyddorau Biofeddygol trwy fynd i'n canllaw cyflym.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

AAB-BCC

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol gyda Blwyddyn ar Leoliad

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol gyda Blwyddyn Dramor