Trosolwg o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb yn “y peth mawr nesaf mewn gofal iechyd”? Mae Iechyd Poblogaethau yn faes sy'n datblygu’n fwyfwy ac yn cynnig dewis gyrfa gwych i'r rhai hynny sydd am fod ar flaen y gad o ran datblygu gofal iechyd. Yn fras, mae Iechyd Poblogaethau'n ymwneud â'r ystod eang o ffactorau sy'n gallu pennu iechyd a chanlyniadau iechyd unigolion, grwpiau a phoblogaethau.
Mae tystiolaeth helaeth o'r pwysau cynyddol ar systemau gofal iechyd yn fyd-eang, gan gynnwys clefydau cronig, poblogaethau sy'n heneiddio a nifer uwch o achosion o salwch meddwl. Mae datblygiadau mewn meddygaeth yn gwella iechyd i fwy a mwy o bobl, ond mae anghydraddoldebau amlwg yn y gofal iechyd y mae pobl yn ei dderbyn yn seiliedig ar ble cânt eu geni a ble maent yn byw ac yn gweithio. Nod Iechyd Poblogaethau yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn drwy weithio i feithrin dealltwriaeth well o anghenion gofal iechyd grwpiau o bobl, gwella modelau gofal iechyd a darparu atebion arloesol i ddiwallu anghenion iechyd pobl.
Bydd astudio'r Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y gwyddorau meddygol a bywyd, y gwyddorau cymdeithasol, epidemioleg, demograffeg, iechyd cyhoeddus a gwybodeg iechyd.
Byddwch hefyd yn datblygu'r wybodaeth academaidd a phroffesiynol sydd ei hangen i bennu amrywiadau systematig o ran iechyd unigolion a phoblogaethau, yn ogystal â'r sgiliau a'r profiad i gymhwyso'r wybodaeth hon i atebion ymarferol i wella iechyd, lles a chyflenwi gwasanaethau iechyd.