Meddygaeth (i Raddedigion), MBBCH

Y 15 Uchaf yn y DU ar gyfer Meddygaeth - Complete Univeristy Guide 2026

Medical Student

Trosolwg o'r Cwrs

Mae rhaglen Meddygaeth i Raddedigion yn un unigrw yng Nghymru ac yn un o lond llaw yn unig o raglenni astudiaeth feddygol tebyg yn y DU sy'n agored i raddedigion unrhyw ddisgyblaeth.

Mae’r radd feddygol garlam, bedair-blynedd hon yn dilyn cwricwlwm sbiral arloesol, integredig sydd wedi’i gynllunio i adlewyrchu’r ffordd y mae clinigwyr yn trin cleifion a’r ffordd y mae cleifion yn cyflwyno i feddygon.  

Byddwch yn astudio gwyddorau biofeddygol sylfaenol yng nghyd-destun meddygaeth glinigol, iechyd y cyhoedd, patholeg, therapiwteg, moeseg, materion seicogymdeithasol wrth reoli cleifion.

Ynghyd â chanolbwyntio’n gryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu, byddwch yn datblygu rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i allu ymarfer meddygaeth mewn modd cymwys a hyderus.

Mae ein proses o gyfweld am le ar y cwrs yn un strwythuredig, gan ystyried y rhinweddau hyn sydd eu hangen i fod yn feddyg, fel a bennir yn ‘Good Medical Practice’, a’r gallu i gyflawni’r canlyniadau yn ‘Outcomes for Graduates’. I grynhoi:

  • Sgiliau cyfathrebu
  • Sgiliau datrys problemau
  • Ymdopi â phwysau
  • Mewnwelediad ac uniondeb cymeriad
  • Brwdfrydedd at feddygaeth/cydnerthedd i lwyddo
  • Trefniadaeth ac ymchwil
  • Moeseg a gwerthoedd

Pam Meddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe?

Ysgol feddygaeth fach yw hon gyda ryw 150 o leoedd, felly byddwch yn elwa ar gyswllt helaeth â’r staff addysgu a byddwch yn cael cyswllt â chleifion gan gychwyn yn y tymor cyntaf un.

Os ydych yn siarad Cymraeg, gallwch astudio modiwl 50 credyd ‘Meddyg fel Gweithiwr Proffesiynol’ drwy gyfrwng y Gymraeg a gallech fod yn gymwys i ennill ysgoloriaethau mewnol neu gymorth ariannol wrth y Coleg Cymraeg.  

Os nad ydych chi’n siarad Cymraeg ond rydych am ennill sgiliau Cymraeg sylfaenol ar gyfer lleoliadau gofal iechyd, gofrestru ar ein cyrsiau unigryw ‘Cymraeg ar gyfer Meddygaeth’.  

Eich profiad o Feddygaeth

Mae'r rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion yn gyfuniad dwys ac amrywiol o gydrannau a addysgir ar y campws gan gynnwys:

  • Darlithoedd
  • Tiwtorialau
  • Anatomeg a Sgiliau Clinigol

Bydd Lleoliadau Clinigol yn cael eu cynnal ar safleoedd y GIG gan gynnwys ysbytai, meddygfeydd a chyfleusterau iechyd cymunedol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Meddygaeth (i Raddedigion)

Wedi ichi gyflawni’r cwrs byddwch yn graddio gyda gradd MBBCh o Brifysgol Abertawe, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i Rhaglen Sylfaen y DU ar gyfer meddygon newydd gymhwyso, lle byddwch yn dechrau hyfforddiant mewn amgylchedd clinigol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein graddau Meddygaethl trwy fynd i'n Hysbysiad Hwylus.

Clirio Meddygaeth

Mae gennym amrywiaeth o opsiynau ar gyfer ymgeiswyr Meddygaeth os ydych chi wedi dod o hyd i chi'ch hun yn y broses Glirio. Ewch i'n tudalen we Llwybrau i Feddygaeth neu ffoniwch ein Llinell Gymorth Clirio

0808 175 3071

Modiwlau

Mae’r Rhaglen yn cynnwys Cyfnod 1 (Blynyddoedd 1 + 2) a Chyfnod II (Blynyddoedd 3 + 4). Mae bob blwyddyn wedi’i mapio yn unol â ‘Outcomes for Graduates’ y GMC (2015) lle mae 3 Modiwl yn adlewyrchu’r meysydd canlyniadau canlynol:

  • Ysgolhaig a Gwyddonydd
  • Ymarferydd
  • Gweithiwr Proffesiynol

Cyfnod I

Wythnosau Dysgu (yn seiliedig ar achosion, mae hyn yn cynnwys Dull Clinigol Integredig)

Dysgu yn y Gymuned mewn Practis Cyffredinol am un diwrnod bob pedwaredd neu bumed wythnos

Cyfleoedd Dysgu mewn Lleoliad Clinigol (“LOCS”)

Cyfleoedd Dysgu mewn Lleoliad Ymchwil (“LORS”)

Prentisiaethau Cynnar (1-3)

Cyfnod II

Achos yr Wythnos (Wythnosau Dysgu yn y Gymuned)

Prentisiaethau Clinigol a Phrentisiaethau (Meddygaeth, Llawfeddygaeth a Gofal Sylfaenol) (4-8) gan gynnwys 8 wythnos o ddysgu yn y gymuned

Ymlyniadau arbenigol: wyth lleoliad 5-wythnos mewn Meddygaeth (yn Ysbytai Singleton a Threforys), Llawfeddygaeth Acíwt, Meddygaeth Acíwt, Iechyd Menywod, Iechyd Plant, Iechyd Meddwl, Is-arbenigeddau Meddygaeth a Llawfeddygaeth, ac Eiddilwch.  Mae’r rhain yn cynnwys Dull Clinigol Integredig ac efelychu.

Astudiaeth o'ch dewis ym Mlwyddyn 4 (Lleoliad Clinigol 5-Wythnos a wneir dramor gan amlaf)

Cyfnod Isddarlithyddiaeth Myfyrwyr Uwch / Cysgodi ar ddiwedd Blwyddyn 4 cyn F1 (Lleoliad 5-Wythnos pan fydd myfyrwyr yn “cysgodi” meddygon F1 wrth eu gwaith yng Nghymru neu’n ymuno a rhaglen ‘cysgodi’ Cymru-gyfan).

Meddygaeth (i Raddedigion)