Pam astudio Meddygaeth yn Abertawe?

Mae ein Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion (MB BCh) yn unigryw yng Nghymru, ac mae'n un o grŵp bach o raglenni astudio meddygol tebyg yn y DU. Mae'n radd feddygol arloesol a charlam dros bedair blynedd sydd ar gael i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth.

BETH OS NAD OES GEN I RADD ISRADDEDIG EISOES?

Os ydych yn gwneud cais am raddau Meddygaeth Israddedig ac yn chwilio am 5ed dewis ar gyfer eich cais UCAS, neu os ydych yn awyddus i fynd ati cyn ymgymryd ag astudiaethau meddygol, mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn ddelfrydol i chi. Bydd ein graddau Llwybrau i Feddygaeth yn rhoi cyfle i chi sicrhau cyfweliad gwarantedig ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion erbyn i chi raddio.

Llwybrau i Feddygaeth

Beth yw strwythur y cwrs?

Mae'r cwricwlwm Meddygaeth i Raddedigion wedi cael ei strwythuro i adlewyrchu'r ffordd y mae clinigwyr yn ymdrin â chleifion a'r ffordd y mae cleifion yn cyflwyno eu hunain i feddygon.  Caiff y gwyddorau biofeddygol sylfaenol eu dysgu yng nghyd-destun meddygaeth glinigol, iechyd cyhoeddus, patholeg, therapiwteg, moeseg a materion seicogymdeithasol wrth reoli cleifion.

Sut alla i deilwra fy astudiaethau?

Byddwch yn dod i gysylltiad â'r maes clinigol ar raddfa fawr o'r cychwyn cyntaf drwy gyfleoedd dysgu mewn lleoliad clinigol, prentisiaethau clinigol, swyddi cynorthwyydd iau, cysylltiadau arbenigol a dysgu yn y gymuned. Bydd hyn, ynghyd â phwyslais mawr ar sgiliau clinigol a sgiliau cyfathrebu, yn sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i ymarfer meddygaeth yn foddhaol ac yn hyderus.

BETH YDYM YN CHWILIO AMDANO WRTH GYFWELD AM FEDDYGAETH?

Rydym yn credu bod gan y meddygon mwyaf llwyddiannus y nodweddion hyn::

  • Sgiliau cyfathrebu clir
  • Y gallu i ddatrys problemau
  • Y gallu i ymdopi â phwysau
  • Yn ymwybodol ac yn onest
  • Yn frwd dros feddygaeth ac yn benderfynol o lwyddo
Awgrymiadau ar gyfer Cyfweliadau ym maes Meddygaeth

Archwiliwch opsiynau eich cwrs ...

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am bob un o'n cyrsiau. Ar bob tudalen cwrs fe welwch wybodaeth am fodiwlau, gofynion mynediad, staff addysgu, ffioedd dysgu a sut mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn gweithio.