Awgrymiadau ar gyfer Cyfweliadau ym maes Meddygaeth

Lecturer teaching anatomy of the heart

Eisiau gwybod yr hyn y mae Ysgolion Meddygaeth yn chwilio amdano?

Pan fyddwn yn cyfweld ar gyfer y cwrs Meddygaeth i Raddedigion, mae 5 cymhwysedd allweddol sy’n gwneud meddyg da yn ein barn ni. 

Cyfathrebu

Examing with stethescope

Mae cyfathrebu’n allweddol i lwyddo ym maes meddygaeth – i’r meddyg ac i’r claf. Wrth baratoi at eich cyfweliad, ystyriwch y canlynol:

  • Ydych chi’n gallu cyfathrebu’n eglur ac yn briodol â phobl o bob cefndir?
  • Sut byddech chi’n dweud rhywbeth a fydd yn newid bywyd wrth rywun?
  • Beth am eich sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig?

Bydd angen enghreifftiau o hyn arnoch.

Ymdopi dan Bwysau

Students running on the beach

Mae bod yn gyfrifol am fywyd rhywun arall yn gyfrifoldeb mawr, ac mae hyn yn golygu y bydd yn rhoi pwysau arnoch – mae angen i chi fod yn barod ar gyfer hyn.

  • Sut byddech chi’n mynd i’r afael â chydbwyso pwysau sy’n gwrthdaro heb beryglu diogelwch y claf?
  • Sut byddwch chi hefyd yn sicrhau eich bod yn gofalu am les eich hun?

Wrth baratoi ar gyfer cyfweliad, ystyriwch rai enghreifftiau, gyda thystiolaeth ac esboniad.

Datrys Problemau

Students doing field of vision test

Mae iechyd dynol a lles yn aml yn bosau sy’n gallu bod yn eithaf dryslyd. I fod yn feddyg da, mae angen eich bod yn gallu datrys y problemau hyn a rhoi diagnosis cywir.

  • Pa sgiliau sydd gennych a fyddai’n golygu eich bod yn gallu prosesu gwybodaeth gymhleth?
  • Pa enghreifftiau sydd gennych o sefyllfaoedd lle gwnaethoch ddatrys problem?

Cofiwch eich enghreifftiau – nid oes angen i bob un ohonynt fod yn glinigol, yn academaidd neu’n feddygol.

Craffer ac Uniondeb

Student and Lecturer reviewing notes

Byddwch yn ymdrin â phobl ar rai o adegau mwyaf heriol eu bywydau, felly mae’n bwysig eich bod yn gallu rheoli eich hun ag uniondeb a dysgu o gamgymeriadau. Cofiwch ni waeth beth yw’r camgymeriad (oherwydd y bydd camgymeriadau) wrth ymarfer meddygaeth, bod yn onest yw’r peth gorau i chi ei wneud.

  • Sut byddech chi’n ymateb pe bai rhywbeth yn mynd o’i le?
  • Allwch chi ddysgu o’ch camgymeriadau?

Sut byddwch chi’n dysgu o’ch camgymeriadau?

Angerdd am Feddygaeth

Students doing an ABC examination

Gyrfa yw meddygaeth ac nid yw ar gyfer y rhai sy’n wangalon. Mae’r heriau bob dydd y byddwch yn eu hwynebu fel meddyg yn golygu y bydd angen i chi fod yn angerddol i ddyfalbarhau drwy sefyllfa anodd. Felly mewn cyfweliad, cofiwch ddweud y canlynol wrthym:

  • Beth sy’n eich cymell i ddod yn feddyg?
  • Sut daith rydych wedi’i chael hyd yn hyn i ddod yn feddyg?

Os nad ydych yn llwyddiannus, beth fydd yn eich annog i roi hwb i’ch hun a pharhau?

Trefnu ac ymchwilio

Myfyriwr ar gyfrifiadur

Mae sgiliau trefnu ac ymchwilio yn hanfodol i feddygon, a byddant yn chwarae rhan ganolog yn eich gallu i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion mewn sefyllfaoedd gofal iechyd heriol sy'n newid yn barhaus. Mae ein cyflwyniad yn gyfle gwych i amlygu'r sgiliau hyn:

  • Allwch chi ymchwilio'n ddigonol i'r pwnc o'ch dewis?
  • Ydy eich cyflwyniad yn amlygu sgiliau cynllunio a threfnu cryf?
  • A yw eich gwybodaeth a'ch cyflwyniad yn glir ac yn unol â'ch pwnc?

Moeseg a gwerthoedd

Mae meddyg yn archwilio claf babi

Mae moeseg a gwerthoedd yn hollbwysig yn y proffesiwn meddygol, gan lunio'r berthynas rhwng meddygon a chleifion a dylanwadu ar bob agwedd ar ddarparu gofal iechyd. Yn ystod eich cyfweliadau, gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos:

  • Dealltwriaeth o egwyddorion moesegol a'u pwysigrwydd wrth wneud penderfyniadau
  • Ymrwymiad i'r safonau uchaf o ran diogelwch a thriniaeth cleifion
  • Cydnabod ymddiriedaeth a hygrededd yn y gymuned feddygol