Microbioleg ac Imiwnoleg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Gwella ein Dealltwriaeth o Iechyd a Chlefydau

Newydd ar gyfer 2024

Microbioleg ac imiwnoleg

Trosolwg o'r Cwrs

Microbioleg yw'r gangen o wyddoniaeth sy'n canolbwyntio ar astudio micro-organebau, gan archwilio pob ffurf ar fywyd microsgopig, o facteria i ffyngau, protosoa a hyd yn oed feirysau nad ydynt yn fyw. Ochr yn ochr â hyn, mae imiwnoleg yn astudio'r system imiwnedd a sut mae'r corff dynol yn ei amddiffyn ei hun rhag yr organebau hyn drwy nifer o wahanol lwybrau a phrosesau.

Mae ein graddau rhyngddisgyblaethol yn cyfuno'r ddau faes hyn, gan ganolbwyntio ar sut maent yn rhyngweithio â'i gilydd wrth ymateb i glefydau heintus, yn ogystal ag ystyried anhwylderau a geir o ganlyniad i ddiffyg yn y system imiwnedd. Bydd gweithgareddau diwydiannol ac ymchwil, megis datblygu cyffuriau gwrthficrobaidd newydd, ac imiwno-therapiwteg arloesol yn sicrhau bod y rhaglen yn gysylltiedig ag anghenion y byd go iawn.

Yn ogystal â bod yn hanfodol i'n dealltwriaeth o iechyd a chlefydau, mae microbioleg ac imiwnoleg hefyd yn rhan annatod o ddiwydiannau amrywiol. Mae galw cynyddol am arbenigwyr yn y meysydd hyn, wedi'i sbarduno gan bwyslais cynyddol ar ofal iechyd, biotechnoleg, cynhyrchion fferyllol a sector y gwyddorau bywyd yn ehangach, sy'n cynnig rhagolygon ardderchog i'n graddedigion.

Pam Microbioleg ac imiwnoleg ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn elwa o gyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys cyfarpar bio-ddadansoddi megis cyfarpar dadansoddi DNA a phroteinau, sytometreg llif ar gyfer nodweddu celloedd, dadansoddi metaboledd celloedd mewn amser go iawn, a dadansoddwyr delwedd ar sail cyfrifiadur ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd a chellol.

Byddwch hefyd yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr sy'n gweithio ym meysydd microbioleg, imiwnoleg a biowybodeg, gan roi i chi fynediad at enghreifftiau ymchwil go iawn ar waith.

Eich profiad Microbioleg ac imiwnoleg

Gallwch ddewis astudio Microbioleg ac Imiwnoleg fel:

  • BSc 3 blynedd
  • BSc 4 blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant ar ffurf blwyddyn lleoliad gwaith
  • BSc 4 blynedd gyda blwyddyn dramor, neu
  • MSci 4 blynedd gyda chymhwyster lefel meistr integredig

Ar y cynllun BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r cyfle i chi deilwra eich gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau o ran gyrfa neu eich cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach. Byddwch hefyd yn mireinio eich sgiliau ymchwil annibynnol drwy ymgymryd â 'phrosiect maen capan' ym maes microbioleg neu imiwnoleg. Bydd y prosiect yn gyfle i chi ddangos eich holl wybodaeth a sgiliau, cyfrannu at ddarganfyddiadau gwyddonol a phrofi eich gallu i weithio fel aelodau gweithgar o'r gymuned ymchwil wyddonol.

Mae'r rhaglen 4 blynedd gyda blwyddyn mewn diwydiant yn cynnig blwyddyn ychwanegol ar leoliad gwaith rhwng eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf, gan roi’r cyfle i chi gael blas ar weithio ym myd diwydiant, magu hyder a chael profiad yn y byd go iawn.

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Mae ein gradd MSci 4 blynedd yn radd israddedig uwch a chanddi flwyddyn meistr integredig. Byddwch yn treulio’r flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Mae'r cwricwlwm a'r rhaglenni wedi'u cynllunio i alluogi myfyrwyr i feithrin y sgiliau a'r priodweddau sy'n angenrheidiol i ddod yn wyddonwyr ac yn ymchwilwyr medrus a chymhwys. Bydd ein rhaglenni'n gwella eich galluoedd datrys problemau ac yn annog arloesi mewn ymchwil.

Ddim yn meddwl eich bod yn bodloni'r gofynion mynediad? Beth am ystyried ein BSc neu ein MSci mewn Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn Sylfaen?

Cyfleoedd cyflogaeth microbioleg ac imiwnoleg

Mae gradd mewn microbioleg ac imiwnoleg yn agor y drws i amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd amrywiol gan gynnwys:

  • Ymchwil feddygol
  • Datblygu fferyllol
  • Biotechnoleg
  • Biodanwyddau
  • Amaethyddiaeth
  • Biowybodeg
  • Y byd academaidd

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

AAB-BCC

Microbioleg ac Imiwnoleg

Microbioleg ac Imiwnoleg

Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn ar Leoliad

Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn Dramor