Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Sport science students and equipment

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn archwilio'r ffordd y mae'r corff dynol yn perfformio o dan lefelau gwahanol o bwysau. Mae hefyd yn cwmpasu'r materion ehangach sydd dan sylw, o gyfranogiad ehangach mewn chwaraeon ac ymarfer corff, i foeseg, seicoleg chwaraeon a maetheg. 

Mae'r cwrs gradd hwn yn darparu craidd cadarn o ddysgu modern a pherthnasol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, beth bynnag fo'ch dewis arbenigedd.

Pam Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Abertawe?

  • 15fed Yn Y Du Gwyddor Chwaraeon (Complete University Guide 2025)
  • Un o’r 51-100 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)
  • 11eg yn y du am lais y myfyrwyr (NSS 2024)*
     
    *Yn seiliedig ar y sgor gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau
    22 i 25 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o'n cymharu ni a phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Mae yna opsiwn i dreulio BLWYDDYN YN ASTUDIO DRAMOR (UCAS C601) mewn prifysgol bartner i gyfoethogi'ch gradd, gan roi profiad diwylliannol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth geisio cael gwaith.

Eich Profiad Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Byddwch yn gwneud defnydd helaeth o'n Labordy Biomecaneg pwrpasol, sy'n cynnwys system dadansoddi mudiant o'r radd flaenaf. 

Drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch hefyd yn gweithio'n agos yn y Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff. Mae'r labordy hwn yn cynnwys amrywiaeth o ergomedrau ymarfer corff a chyfarpar ar gyfer asesu gweithrediad yr ysgyfaint, dadansoddi gwaed a phrofi gweithrediad y cyhyrau.

Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y diddordebau a'r galluoedd y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar soffistigedig, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth.

Gweler cyrsiau cysylltiedig: BSc Mathemateg a Gwyddor Chwaraeon

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Mae graddedigion Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Gwyddonydd Chwaraeon a Pherfformiad
  • Ymarferydd Cryfder a Chyflyru
  • Ffisiolegydd Cardiaidd
  • Dadansoddwr Perfformiad
  • Swyddog Hybu Iechyd
  • Gwyddonydd Iechyd y Cyhoedd

Mae gan yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gysylltiadau agos â sefydliadau gan gynnwys Diabetes UK, Ymddiriedolaeth GIG Abertawe, UK Sport, Chwaraeon Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn canolbwyntio ar bynciau gan gynnwys biomecaneg a thechnoleg, anatomeg ddynol a ffisioleg, ac agweddau seicolegol ar chwaraeon.

Byddwch yn symud drwy bynciau gan gynnwys cyflogadwyedd, moeseg a maetheg, i feysydd fel twf a datblygiad ac uniondeb chwaraeon.

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda Blwyddyn Dramor