Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg, BEng (Anrh) / MEng (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Materials science equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Mae arloesi llwyddiannus yn ddibynnol ar ddethol a pherfformiad deunyddiau allweddol. O geir, awyrennau a llongau mordeithio, i chwaraeon ac offerynnau cerddorol, prostheteg, ffonau symudol a chelloedd solar hyblyg, gall y deunyddiau cywir helpu i ddiffinio cynnydd technolegol.

Mae Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn archwilio sut mae priodweddau sylweddau'n gallu cael eu rheoli, eu gwella a'u trin i wella perfformiad mewn cymwysiadau presennol a sefydlu cymwysiadau technolegol newydd. Mae'n cynnwys elfennau o ffiseg a chemeg, drwy gysylltu'n agos â'r rhan fwyaf o feysydd eraill peirianneg.

Bydd ein gradd yn eich arfogi â dealltwriaeth gynhwysfawr o wyddor deunyddiau a pheirianneg, gan ddatblygu eich gallu dadansoddol ochr yn ochr â chael profiad ymarferol o gyfarpar uwch, i fodloni galwadau cynyddol diwydiant deunyddiau'r DU a'r sectorau ymchwil byd-eang, gan gynnwys awyrofod, modurol, gweithgynhyrchu, chwaraeon a chynhyrchu ynni. 

Byddwch yn barod i ymateb i heriau byd-eang dybryd, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, trawsnewid ynni, prinder adnoddau a thegwch cymdeithasol a byddwch yn ystyried goblygiadau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach dylunio peirianegol.

Mae'r rhaglen yn cael ei hastudio fel gradd Baglor mewn Peirianneg (BEng) am 3 blynedd, neu radd Meistr Integredig mewn Peirianneg (MEng) am 4 blynedd sy'n bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig. Mae ein cyrsiau BEng ac MEng yn cynnwys opsiynau i astudio gyda Blwyddyn Dramor, Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Sylfaen.

Pam Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn Abertawe?

Mae gan Beirianneg ym Mhrifysgol Abertawe enw da yn fyd-eang ac mae'n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd. Addysgir Peirianneg Deunyddiau a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe ar ein Campws y Bae ar lan y môr, ac mae yn y safleoedd canlynol:

  • Cwrs yn y 10 uchaf yn y DU (Complete University Guide 2026)*
  • 2il yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)*
  • 5ed yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)**
  • 7fed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)*
  • 9fed yn y DU am Ymchwil (Times Good University Guide 2026)*

*Aseswyd yn ôl Technoleg Deunyddiau

**Aseswyd yn ôl Peirianneg Gyffredinol

Eich Profiad Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu arbenigedd technegol uwch ar draws meysydd metelau, polymerau, cyfansoddion, serameg a deunyddiau gweithredol, gan rychwantu gwyddoniaeth sylfaenol drwy ddyluniad cymhwysol a dulliau cynhyrchu. Byddwch yn ennill gwybodaeth arbenigol mewn meysydd allweddol megis deunyddiau ar gyfer cymwysiadau pŵer ac awyrofod, technoleg dur a thechnolegau ailgylchu, a gefnogir gan brofiad ymarferol ag offer peirianneg fodern a methodolegau gan gynnwys nodweddu deunyddiau, modelu cyfrifiadol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg megis deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.

Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn cynnwys cyfarpar blaengar ar gyfer nodweddu priodweddau microadeiledd a mecanyddol, ynghyd ag ystod helaeth o labordai sy'n cynnwys microsgopau sganio a throsglwyddo electronau, gyda microddadansoddiad llawn a galluoedd diffreithiant ôl-wasgaru electronau.

Byddwch yn ennill yr hyder i ddatrys heriau peirianyddol cymhleth, gan gymhwyso egwyddorion craidd i sefyllfaoedd newydd, gyda phwyslais cryf ar y cydberthnasoedd rhwng strwythur deunyddiau, prosesu a phriodweddau. Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn meithrin dealltwriaeth o gyfrifoldebau a chyfyngiadau diwydiannol, gan gynnwys ystyriaethau moesegol ac ariannol a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Bydd ymweliadau â chwmnïau blaenllaw gan gynnwys Tata Steel, Timet, Ensinger ac Airbus, yn datblygu eich profiad ymhellach ac yn rhoi dealltwriaeth go iawn i chi o fyd diwydiant.

Gallwch astudio'r rhaglen fel gradd Baglor mewn Peirianneg (BEng) dros dair blynedd neu fel gradd Meistr mewn Peirianneg (MEng) dros bedair blynedd. Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BEng.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg

Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd eich arbenigedd, eich gwybodaeth a'ch profiad peirianneg yn rhoi'r hyder i chi fynd i fyd gwaith. Mae rolau i raddedigion yn cynnwys:

  • Metelegydd
  • Gwyddonydd Datblygu Cynnyrch
  • Peiriannydd Biofeddygol
  • Peiriannydd Systemau Gweithgynhyrchu
  • Archwiliwr Patentau
  • Rheolwr Ansawdd
  • Gwyddonydd Datblygu Prosesau

Efallai yr hoffech hefyd symud ymlaen i astudiaethau uwch ar lefel Meistr neu Ddoethuriaeth.

Mae llawer o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus gyda chwmnïau megis Tata Steel, Rolls-Royce, Jaguar Land Rover, Atkins, GE Aviation, Mott MacDonald a Babcock International Group.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg, BEng (Anrh)

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg, MEng (Anrh)

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg gyda Blwyddyn Dramor, MEng (Anrh)

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MEng (Anrh)

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg gyda Blwyddyn Dramor, BEng (Anrh)

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BEng (Anrh)