Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg, MEng (Anrh)

2il yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr

Complete University Guide 2026

MEng Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau

Nid yw'n rhy hwyr i ddechrau astudio gyda ni ym mis Medi / Hydref.

Ewch i’n tudalennau Clirio am fwy o wybodaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r gallu i arloesi'n llwyddiannus yn dibynnu ar y deunyddiau allweddol a ddewisir a'u perfformiad. O geir, awyrennau a llongau mordeithio, i gyfarpar chwaraeon ac offerynnau cerdd, gall y deunyddiau cywir helpu i ddiffinio cynnydd technolegol.  

Mae Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau yn archwilio sut y gellir rheoli priodweddau mater. Mae'n cynnwys elfennau o ffiseg a chemeg, gyda chysylltiad agos â'r rhan fwyaf o feysydd eraill mewn peirianneg.

Bydd y cwrs gradd hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau peirianneg, gan gynnwys awyrofod, cerbydau modur, gweithgynhyrchu, chwaraeon a chynhyrchu ynni. Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.

I ddysgu rhagor am y cwrs, gwnaethon ni gyfweld â Dr Mark Coleman, ein huwch-ddarlithydd mewn Meteleg, gan ofyn rhai cwestiynau cyffredin iddo.

Pam Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn Abertawe?

Mae gan bwnc Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe enw da heb ei ail ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd.

  • 1af yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2025)
  • 2il yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 9fed yn y DU am Ragolygon Graddedig (Complete University Guide 2026)
  • Un o’r 131 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)
  • Mae 96% o raddedigion Peirianneg Deunyddiaul yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025)

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS H503) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS H506) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

Eich Profiad Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg

Ymhlith ein cyfleusterau o'r radd flaenaf mae cyfarpar blaenllaw ar gyfer pennu nodweddion priodweddau mecanyddol deunyddiau metelaidd, ceramig, polymerig a chyfansawdd. 

Mae gennym hefyd amrywiaeth helaeth o labordai sy'n cynnwys microsgopau sganio electronau sydd â galluoedd micro-ddadansoddiad a diffreithiant ôl-wasgariad electronau llawn.
 
Bydd ymweliadau â Tata Steel, Timet, Ensinger ac Airbus yn gyfle i gael profiad o ddiwydiant go iawn.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg

Mae graddedigion Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Metelegydd
  • Gwyddonydd Datblygu Cynhyrchion
  • Gwyddonydd Ymchwil
  • Peiriannydd Biofeddygol
  • Archwilydd Patent
  • Rheolwr Ansawdd

Mae ein graddau mewn Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau wedi'u hachredu gan y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3).

Modiwlau

Yn bennaf, byddwch yn astudio cyfres benodedig o fodiwlau 10 credyd, gan arwain at brosiect ymchwil 30 credyd yn y flwyddyn olaf.

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg gyda Blwyddyn Dramor

Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant