Peirianneg Biofeddygol, BEng (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
Biomedical engineering

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Peirianneg Fiomeddygol yn cymhwyso egwyddorion peirianneg at y corff dynol, er mwyn gweithio tuag at fath soffistigedig a phersonol o ofal iechyd yn y dyfodol.

Mae'n cyfuno peirianneg â'r offerynnau a ddefnyddir mewn meddygaeth fodern, gyda'r nod o greu technolegau newydd pwysig a fydd yn cael effaith ar fywydau pob un ohonom ac yn ymestyn ein hoes. Gallwch fod wrth wraidd y cyfan.

Mae ein cwrs gradd tair blynedd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau. Byddwch yn meithrin sgiliau craidd peirianneg gan ddysgu am anatomeg, ffisioleg a chyfathrebu â chlinigwyr ar yr un pryd.

Byddwch yn datblygu galluoedd dadansoddi wrth gael profiad ymarferol o gyfarpar arbenigol uwch, gan feithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer gweithio yn y diwydiant.

Pam Peirianneg Biofeddygol yn Abertawe?

Mae gan bwnc Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe enw da ac mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd.

  • 6ed Yn U Du Peirianneg Fiofeddygol (Daily Mail University Guide 2025),
  • 3ydd Yn Y Du Am Adnoddau Dysgu* (NSS 2024)

*Yn seiliedig ar y sgor gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 19 i 21 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o'n cymharu ni a phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS HB19) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS HB01) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

Eich Profiad Peirianneg Biofeddygol

Mae tair prif thema i'n graddau mewn Peirianneg Fiomeddygol: 

  1. Biomecaneg a deunyddiau – datblygu a dadansoddi deunyddiau er mwyn iddynt fod yn gryf ac yn fiogydnaws
  2. Offeryniaeth – meintoli technegau diagnostig a therapiwtig uwch
  3. Biobrosesau – manylu ar brosesau ffisegol, cemegol a biolegol pwysig yn y corff dynol

Mae llwybr gradd sydd wedi'i strwythuro'n hyblyg yn rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn.

Ymhlith y cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd gennym mae offerynnau peirianneg drydanol i adeiladu a phrofi dyfeisiau meddygol ac unedau modelu biomecanyddol i wneud y gorau o dechnolegau mewnblannu.

Byddwch yn astudio mewn cymuned ymchwil ffyniannus. Mae hyn yn cynnwys y Labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Fiofeddygol (BEST), sy'n fan gwych lle gall ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol ddatblygu syniadau, o’r cysyniad i weithgynhyrchu, offeru a phrofi. 

Mae hefyd yn cynnwys y Ganolfan Peirianneg Systemau a Phrosesau (SPEC), lle y gwneir ymchwil i amrywiaeth o systemau biolegol a chemegol cymhleth.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Biofeddygol

Mae graddedigion Peirianneg Fiomeddygol yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Biofeddygol
  • Peiriannydd/Gwyddonydd Clinigol
  • Gwyddonydd Ymchwil Feddygol
  • Peiriannydd Adsefydlu
  • Peiriannydd Dylunio Prosthetigau
  • Peiriannydd Bioddeunyddiau
  • Peiriannydd Cymhwyso mewn Dyfeisiau Meddygol
  • Peiriannydd Bio-offeryniaeth
  • Offerynnau Llawfeddygol Robotig

Mae'r radd hon yn gam cyntaf ar y llwybr tuag at statws Peiriannydd Siartredig, sy'n uchel ei barch.

Modiwlau

Byddwch yn cwblhau cyfres o fodiwlau 10 credyd gorfodol a dewisol cyn cyflawni prosiect ymchwil 30 credyd a phrosiect dylunio grŵp 20 credyd yn eich blwyddyn olaf.

Peirianneg Biofeddygol

Peirianneg Biofeddygol gyda Blwyddyn Dramor

Peirianneg Bioeddygol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant