Peirianneg Gemegol, BEng (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
chemical engineering students

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Drwy astudio gradd mewn Peirianneg Gemegol, byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol ar beirianneg prosesau modern, gan feithrin sgiliau dadansoddi a datrys problemau sy'n allweddol i gymhwyso peirianneg at ddiwydiant.

Mae peirianwyr cemegol yn gweithio'n agos â phrosesau sy'n troi deunyddiau crai yn gynhyrchion gwerthfawr i'w defnyddio gan bobl. Mae eu sgiliau'n sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu defnyddio'n gynaliadwy, a bod sgil-gynhyrchion yn cael eu gwaredu mewn modd diogel ac ecogyfeillgar.

Mae'r cwrs gradd hwn sydd wedi'i achredu'n broffesiynol yn meithrin gwybodaeth a sgiliau ar draws y sbectrwm llawn o bynciau peirianneg gemegol, sy'n sicrhau bod pob drws ar agor i chi o ran eich dewisiadau gyrfa.

Pam Peirianneg Gemegol yn Abertawe?

  • 14eg Yn U Du Peirianneg Gemegol (The Times Good University Guide 2025)
  • 10fed Yn Y Du Am Yr Addysgu Ar Fy Nghwrs* (NSS 2024)
  • Un o’r 251 - 300 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)

*Yn seiliedig ar y sgor gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol ar draws cwestiynau 1 i 4 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024 o'n cymharu ni a phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi dreulio BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT (UCAS H832) yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr yn y gweithle yn ogystal â chyflog sydd ar hyn o bryd dros £15,000 ar gyfartaledd. Darperir cymorth ac arweiniad I’ch helpu i sicrhau lleoliad.

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS H800) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

Eich Profiad Peirianneg Gemegol

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym nifer o gyfleusterau peirianneg gemegol soffistigedig i gyfoethogi eich astudiaethau. Mae ein Labordy Cemegol Peilot yn cynnwys 15 o lwyfannau ar raddfa peilot sy'n cwmpasu ystod eang o weithrediadau uned.

Ymhlith y cyfleusterau eraill o'r radd flaenaf y byddwch yn gweithio â nhw o bosibl mae microsgopeg grym atomig, llwyfannau eplesu, cyseiniant plasmon arwyneb a phrofion adlyniad croeswasgu hydrodynamig.

Byddwch hefyd yn cael budd o amgylchedd ymchwil dynamig lle mae academyddion arloesol Prifysgol Abertawe yn arwain y ffordd mewn meysydd fel technolegau soffistigedig ar gyfer trin dŵr.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Gemegol

Mae graddedigion Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Cemegol
  • Peiriannydd Ynni
  • Peiriannydd Petrolewm
  • Gwyddonydd Datblygu Cynhyrchion/Prosesau
  • Peiriannydd Mwyngloddio
  • Rheolwr Peiriannau Technegol
  • Peiriannydd Cymwysiadau
  • Peiriannydd Drilio Safle Ffynnon

Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe

Modiwlau

Mae ein modiwlau yn seiliedig ar feysydd peirianneg gemegol sefydledig, a gellir eu cymhwyso at feysydd ynni, iechyd, bwyd, dŵr a'r amgylchedd. 

Peirianneg Gemegol

Peirianneg Gemegol gyda Blwyddyn Dramor

Peirianneg Gemegol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant