Trosolwg o'r Cwrs
Drwy astudio gradd mewn Peirianneg Gemegol, byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol ar beirianneg prosesau modern, gan feithrin sgiliau dadansoddi a datrys problemau sy'n allweddol i gymhwyso peirianneg at ddiwydiant.
Mae peirianwyr cemegol yn gweithio'n agos â phrosesau sy'n troi deunyddiau crai yn gynhyrchion gwerthfawr i'w defnyddio gan bobl. Mae eu sgiliau'n sicrhau y caiff adnoddau naturiol eu defnyddio'n gynaliadwy, a bod sgil-gynhyrchion yn cael eu gwaredu mewn modd diogel ac ecogyfeillgar.
Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.
Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant peirianneg gemegol.