Seicoleg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyriwr

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd astudio BSc mewn Seicoleg gyda Blwyddyn Sylfaen yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng yr ymennydd, y cof ac ymddygiad.

Bydd y flwyddyn sylfaen o'r cwrs pedair blynedd hwn yn eich cyflwyno i'r prif gysyniadau a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i'r BSc mewn Seicoleg. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i Flwyddyn 1 y BSc.

Bydd y flwyddyn sylfaen (lefel 3) yn cael ei chyflwyno gan y Coleg, Prifysgol Abertawe (TCSU). Bydd Blynyddoedd 2-4 (lefelau 4-6) yn cael eu cyflwyno gan Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Byddwch yn astudio’r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy’n sail i weithgareddau megis meddwl, rhesymu, cof ac iaith. Hefyd byddwch yn dysgu am ganlyniadau anafiadau i’r ymennydd ac yn archwilio ffyrdd o wella ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi beirniadol rhagorol, yn ogystal â lefel uchel o allu rhifedd a TG.

Mae ein hymagwedd at addysgu, sy'n cynnwys darlithoedd, tiwtorialau personol, seminarau academaidd, gweithdai a dosbarthiadau ymchwil ymarferol, yn annog sgiliau gweithio effeithiol fel tîm a chyfathrebu llafar o safon.

PAM ASTUDIO SEICOLEG YM MHRIFYSGOL ABERTAWE?

Mae gan ein Hadran Seicoleg enw rhagorol yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn yr asesiad ymchwil diweddaraf, roeddem yn falch o gynnal ein diwylliant ymchwil gyda hanes cryf o drosi gwyddoniaeth yn ganlyniadau byd go iawn, gyda 100% o'n heffaith yn cael ei hystyried yn rhagorol yn rhyngwladol (REF2021).

Mae'r cwrs yn cael ei ddilysu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac, ar yr amod y byddwch yn cael o leiaf 2:2 yn eich gradd, byddwch yn gymwys am Aelodaeth i Raddedigion y BPS ac ar gyfer Aelodaeth Siartredig i Raddedigion (GBC), sef y cam cyntaf tuag at ddod yn Seicolegydd Siartredig. 

EICH PROFIAD SEICOLEG

Mae ein strwythur gradd hyblyg, â'i hamrywiaeth helaeth o fodiwlau dewisol yn y flwyddyn olaf, yn rhoi'r cyfle i chi deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau, nodau gyrfa neu uchelgeisiau o ran astudiaethau ôl-raddedig penodol ichi.

GYRFAOEDD SEICOLEG

Gan fod y radd hon, a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, yn gam cyntaf tuag at yrfa broffesiynol ym maes Seicoleg, mae llawer o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn meysydd arbenigol Seicoleg.

Y cyflog cychwynnol cyffredinol ar gyfer seicolegydd dan hyfforddiant yn y GIG yw £35,392. Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, gallech chi ennill rhwng £50,056 ac £96,376 neu'n uwch. Mae'r cyflogau mewn ymarfer preifat yn amrywio.

Bydd y profiad a'r sgiliau rydych yn eu hennill ar y cwrs hwn hefyd yn eich arfogi'n dda ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd eraill iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â sectorau mor amrywiol â marchnata, ymchwil a rheoli.

Modiwlau

Bydd eich 3 blynedd gyntaf yn astudio egwyddorion allweddol seicoleg biolegol, cymdeithasol a datblygiadol, ynghyd ag ystadegau, ymchwil a dulliau arbrofol.

Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis o ystod eang o opsiynau ynghyd â modiwlau craidd gorfodol.

Seicoleg gyda Blwyddyn Sylfaen