Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
criminology and psychology

Yn cynnig dealltwriaeth fanwl i chi o’r meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad, ynghyd â dadansoddiad o strwythurau cymdeithasol, pŵer, troseddau ac anghydraddoldeb, fel rhan o radd uchel ei bri ar gyfer cyflogaeth mewn dwy ddisgyblaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd astudio Troseddeg a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad.

Byddwch chi'n astudio'r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy'n sail i weithgareddau megis meddwl, rhesymu, cof ac iaith; yn dysgu am effeithiau anafiadau i'r ymennydd, ac yn archwilio ffyrdd o wella ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.

Ochr yn ochr â hyn, mae'r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd i archwilio'r ffactorau cymhleth sy'n llunio ymddygiad troseddol, y penderfyniadau sy'n diffinio gweithredoedd penodol fel rhai troseddol, a'r ffyrdd y mae cymdeithas yn ymateb i wyredd a niwed.

Pam Troseddeg a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Rydym yn uchel ein safle o ran cyflogadwyedd ym meysydd Troseddeg a Seicoleg.
  • Archwiliwch feysydd astudio arbenigol fel troseddu ymhlith pobl ifanc, plismona, allgau cymdeithasol, niwroamrywiaeth, iechyd meddwl a lles, a seicoleg fforensig.
  • Cewch brofiad o efelychiadau Ystafell Hydra o'r radd flaenaf, sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd ar gyfer hyfforddiant ac adolygu ar ôl digwyddiadau critigol mewn rolau troseddol a brys, fel yn achos yr Heddlu.
  • Mae ein graddau Seicoleg wedi'u dilysu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac, ar yr amod y byddwch yn cael o leiaf 2:2 yn eich gradd, byddwch yn gymwys am Aelodaeth i Raddedigion o’r BPS ac Aelodaeth Siartredig i Raddedigion (GBC), sef y cam cyntaf tuag at ddod yn Seicolegydd Siartredig.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mae gofynion mynediad yna i roi arweiniad i chi, nid i fod yn rhwystr, a bydd ein cynnig wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi a beth rydym yn meddwl y medrwch chi ei gyflawni.

Rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid wrth i chi fynd drwy'r siwrnai. Gallwch siarad â ni am eich cynnig ar unrhyw gyfnod a byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynnig y medrwch chi ei gyflawni.

Eich profiad ym maes Troseddeg a Seicoleg

Mae ein rhaglen Troseddeg a Seicoleg yn seiliedig ar yr egwyddor bod deall troseddu, niwed, cyfiawnder a rheoleiddio cymdeithasol yn gofyn am ddealltwriaeth seicolegol o'r meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad, yn ogystal â dadansoddiad troseddegol o strwythurau cymdeithasol, grym, anghydraddoldeb a rheolaeth. Nid yw'r disgyblaethau hyn yn cael eu haddysgu fel llinynnau ar wahân, ond maent wedi'u cynllunio'n fwriadol i atgyfnerthu, holi a chefnogi ei gilydd ar draws y cwricwlwm.

Mae’r cynnwys Seicoleg yn rhoi sylfaen wyddonol i chi yn y mecanweithiau sy'n sail i wybyddiaeth, emosiwn, datblygiad, gwahaniaethau unigol ac ymddygiad cymdeithasol, tra mae’r cynnwys troseddeg yn gosod y prosesau hyn mewn cyd-destunau cyfreithiol, diwylliannol, gwleidyddol a hanesyddol ehangach. Gyda'i gilydd, bydd y disgyblaethau hyn yn eich galluogi i ddeall ffenomenau cymdeithasol cymhleth fel troseddu, erledigaeth, ymddygiad gwyro, cyfiawnder ac adferiad.

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd i gael profiad o'r byd go iawn – hyd yn oed os dewiswch beidio â gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant, bydd gennych yr opsiwn i gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o'r modiwl Lleoliad Gwaith. Mae lleoliadau yn y trydydd sector yn bennaf, ond gallwch hefyd ddod o hyd i'ch cyfle eich hun. Mae'r modiwl yn gystadleuol, ac mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae'r radd hon, sydd wedi'i hachredu gan y BPS yn darparu sylfaen gref mewn theori, ymchwil a sgiliau cymhwysol seicolegol. Er bod rhai graddedigion yn dewis dilyn hyfforddiant pellach mewn meysydd arbenigol seicoleg (megis seicoleg glinigol, fforensig, addysgol, neu chwaraeon), mae'r rhan fwyaf yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus ar draws ystod eang o ddiwydiannau.

Mae graddedigion y cwrs hwn wedi mynd ymlaen i swyddi ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, ymchwil a'r gwasanaethau cyhoeddus a sifil, yn ogystal â gyrfaoedd mewn rheoli, adnoddau dynol, marchnata, profiad y defnyddiwr, a dadansoddi data. Mae'r sgiliau dadansoddol, ymchwil, cyfathrebu a datrys problemau sy'n cael eu datblygu yn ystod y radd yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ymhell y tu hwnt i'r llwybrau gyrfa seicoleg traddodiadol. Bydd gennych chi hefyd y cyfle i ddod o hyd i gyflogaeth yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rolau gyda'r Heddlu, cymorth i ddioddefwyr, a'r gwasanaethau carchardai a phrawf.

P'un a ydych chi'n dewis symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig neu fynd yn syth i gyflogaeth, mae'r radd hon yn rhoi sgiliau hyblyg, trosglwyddadwy i chi sy'n agor drysau i lwybrau gyrfa amrywiol, yn hytrach nag arwain at un llwybr proffesiynol.

Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Troseddeg a Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)