Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSci Seicoleg, sy'n para pedair blynedd, yn radd israddedig uwch, sy'n ychwanegu blwyddyn â phwyslais ar ymchwil at ein gradd BSc Seicoleg sefydledig. Mae ein MSci yn arwain at gymhwyster lefel meistr, gan roi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi ar y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad, a chan ddarparu'r sylfaen ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.
Yn ystod y tair blynedd gyntaf, byddwch chi'n astudio'r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy'n sail i weithgareddau megis meddwl, rhesymu, cof ac iaith; yn dysgu am ganlyniadau anafiadau i'r ymennydd, ac yn archwilio ffyrdd o wella ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Yn y flwyddyn olaf, bydd gennych fynediad at amrywiaeth o fodiwlau ar lefel meistr, a fydd yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau yn unol â'ch diddordebau personol a'ch dyheadau gyrfaol.Mae'r opsiynau hyn yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys seicoleg glinigol, iechyd meddwl a dulliau ymchwil.
Hefyd, bydd gennych fynediad at fodiwl ymarfer ymchwil unigryw gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg, a gallai hyn gynnwys casglu data sylfaenol, meta-ddadansoddiadau, dadansoddiad data eilaidd ar setiau data mawr a lledaenu ymchwil.
Mae ein hymagwedd at addysgu, sy'n cynnwys darlithoedd, tiwtorialau personol, seminarau academaidd, gweithdai, a dosbarthiadau ymchwil ymarferol, yn annog sgiliau gweithio mewn tîm effeithiol a sgiliau cyfathrebu ar lafar o safon uchel.Drwy gydol y rhaglen, byddwch chi'n datblygu sgiliau ymchwilio, ysgrifennu a dadansoddi beirniadol rhagorol, yn ogystal â lefel uchel o rifedd a gallu TGCh.
Mae hefyd yn bosib i chi astudio rhai modiwlau bob blwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg, os ydych chi’n dewis, a fydd yn rhoi'r gallu i chi ddefnyddio eich sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau cyflogaeth ehangach.