Cyrsiau Israddedig y Gyfraith

Ymunwch â’n cymuned gyfeillgar a ffyniannus o fyfyrwyr israddedig

  • Ein dull gweithredu yw cynnig cefnogaeth addysgol eithriadol, cwricwlwm cynyddol gyda dewis eang o fodiwlau a phrofiad wedi’i bersonoleiddio.
  • Mae ein rhaglenni israddedig yn ddysgir mewn darlithoedd, grwpiau trafod a seminarau rhyngweithiol gan academyddion sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant.
  • Mae galw mawr am ein graddedigion gan gyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae llawer ohonynt yn aros yn Abertawe ar gyfer astudiaethau ôl-radd.

Graddau'r Gyfraith

LLB Y Gyfraith (Gyda neu Heb Flwyddyn Dramor) – 3 neu 4 blynedd

Gallwch ganolbwyntio ar y gyfraith a dewis o ystod eang o fodiwlau dewisol i lywio eich gradd eich hun, gyda mwy na 40 i ddewis ohonynt yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn.

LLB Y Gyfraith gan Troseddeg (Gyda neu Heb Flwyddyn Dramor) – 3 neu 4 blynedd

Enillwch ddealltwriaeth ymarferol am troseddoldeb, erledigaeth, y system cyfiawnder troseddol ochr yn ochr â gradd yn y gyfraith.

LLB Cyfraith Busnes (Gyda neu Heb Flwyddyn Dramor) – 3 neu 4 blynedd

Canolbwyntiwch ar bob agwedd ar gyfraith busnes a masnachol, ac arbenigo mewn meysydd megis cyfraith fasnachol, cyfraith y cyfryngau, gwerthiannau masnachol, a chyfraith cyflogaeth.

LLB yn y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth (Gyda neu Heb Flwyddyn Dramor) – 3 neu 4 blynedd

Dyma radd yn y Gyfraith sy'n cyfuno astudio'r system gyfreithiol yng Nghymru ac yn Lloegr ag agweddau allweddol ar wleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.

LLB yn y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol (Gyda neu Heb Flwyddyn Dramor) – 3 neu 4 blynedd

Dyma gyfle i ddatblygu gwybodaeth am ein system gyfreithiol a'r gymdeithas fyd-eang ehangach, drwy gyfuno gradd yn y Gyfraith ag archwiliad o'r perthnasoedd rhwng cenhedloedd, eu harweinwyr a'u corfforaethau.

LLB Y Gyfraith (Statws Uwch) – 2 flynedd 

Gradd y gyfraith sy'n cael ei haddysgu dros ddwy flynedd i raddedigion heb radd y gyfraith o'r tu allan i'r DU. 

 

Graddau'r Gyfraith gyda Blwyddyn ar Waith

LLB Y Gyfraith ar Waith – 4 blynedd

Ein gradd LLB yn y Gyfraith Anrhydedd Sengl gan dreulio blwyddyn ychwanegol yn ymarfer, gydag interniaeth mewn lleoliad cyfreithiol.

LLB Y Gyfraith ar Waith gan Throseddeg - 4 blynedd

Mae'r radd hon yn darparu dealltwriaeth o system gyfreithiol y DU, ynghyd â gwybodaeth am droseddu ac ymddygiad troseddol, ac interniaeth am flwyddyn mewn lleoliad cyfreithiol

LLB Cyfraith Busnes ar Waith - 4 blynedd

Astudiwch am LLB Cyfraith Busnes ar Waith i ennill gradd cyfraith busnes arbenigol gan dreulio blwyddyn benodol fel intern mewn lleoliad cyfreithiol.

LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Gwleidyddiaeth - 4 blynedd

Cyfuniad o radd yn y Gyfraith ag archwilio gwleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, ochr yn ochr ag interniaeth blwyddyn o hyd mewn lleoliad gwaith cyfreithiol.

LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol - 4 blynedd

Dyma radd yn y Gyfraith sy'n cyfuno astudiaeth fanwl o'n system gyfreithiol ag archwiliad o agweddau allweddol ar gysylltiadau rhyngwladol, ynghyd â threulio blwyddyn mewn interniaeth mewn lleoliad gwaith cyfreithiol.

 

Graddau'r Gyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen

LLB yn Y Gyfraith gyda Blwyddyn Sylfaen – 4 blynedd

Astudio am Flwyddyn Sylfaen, wedi'i dilyn gan LLB sy'n canolbwyntio ar y gyfraith yn unig, gydag amrywiaeth o fodiwlau i'ch galluogi i lywio eich dysgu eich hun.

LLB Y Gyfraith gan Throseddeg gyda Blwyddyn Sylfaen – 4 blynedd

Cwblhewch Flwyddyn Sylfaen, wedi'i dilyn gan LLB sy'n cyfuno astudio troseddoldeb a pholisi troseddol â rhoi sylw manwl i gyfreithiau Cymru a Lloegr. 

LLB yn Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen – 4 blynedd

Dyma raglen pedair blynedd o hyd sy'n dechrau gyda blwyddyn sylfaen, wedi'i dilyn gan radd yn y Gyfraith sydd hefyd yn archwilio agweddau allweddol ar wleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.

LLB yn Y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen – 4 blynedd

Byddwch chi'n cwblhau eich blwyddyn sylfaen, wedi'i dilyn gan radd yn y Gyfraith sy'n cyfuno astudiaeth o'r system gyfreithiol yng Nghymru ac yn Lloegr ag agweddau allweddol ar gysylltiadau rhyngwladol, gan roi safbwynt byd-eang i chi ar broblemau o bwys.

LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Blwyddyn Sylfaen - 5 mlynedd

Astudiwch am Flwyddyn Sylfaen, yna ymgymryd â rhaglen LLB 4 blynedd, sy'n cynnwys treulio blwyddyn yn ymarfer gydag interniaeth sy'n canolbwyntio ar y gyfraith.

LLB Y Gyfraith ar Waith gan Throseddeg gyda Blwyddyn Sylfaen - 5 mlynedd

Cwblhewch Flwyddyn Sylfaen, ac yna raglen LLB 4 blynedd, sy'n cyfuno astudio cyfiawnder troseddol â dealltwriaeth o gyfreithiau Cymru a Lloegr, a threulio blwyddyn ychwanegol mewn interniaeth ym myd y gyfraith.

LLB yn Y Gyfraith ar Waith gyda Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Sylfaen - 5 mlynedd

Paratowch ar gyfer eich LLB gyda Blwyddyn Sylfaen, ac yna LLB pedair blynedd sy'n canolbwyntio ar y gyfraith a gwleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol, gan dreulio blwyddyn yn gwneud interniaeth mewn lleoliad cyfreithiol.

LLB yn Y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen - 5 mlynedd

Paratowch ar gyfer eich LLB gyda Blwyddyn Sylfaen, ac yna raglen 4 blynedd sy'n canolbwyntio ar ein system gyfreithiol ac agweddau ar gysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys treulio blwyddyn yn gwneud interniaeth mewn lleoliad cyfreithiol hefyd.

 

Rhaglenni Partneriaeth

Gradd Ddwbl ar y Cyd mewn Cyfraith Forol - 4 blynedd

Rhaglen israddedig arloesol, sy'n arbenigo mewn agweddau ar gyfraith forwrol a masnachol, gan ei darparu mewn partneriaeth â Phrifysgol Forol Dalian (DMU).

Cysylltu a ni yn yr Ysgol y Gyfraith

Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, 
Prifysgol Abertawe, 
Parc Singleton, 
Abertawe, 
SA2 8PP
Ffôn: +44 (0)1792 205678 
 

Myfyrwyr y Dyfodol: 
Cyflwyno ymholiad Israddedig
Derbyn myfyrwyr rhyngwladol

Myfyrwyr presennol:
My Uni Hub