Trosolwg o'r Cwrs
Cymerwch y camau cyntaf tuag at amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous mewn cyfraith busnes a masnachol gyda'n LLB Cyfraith Busnes ar Waith arbenigol.
Mae'r rhaglen radd hon sy'n para 4 blynedd yn darparu sylfaen gynhwysfawr yn y meysydd craidd a gwmpesir gan radd yn y gyfraith, gan dreulio eich trydedd flwyddyn fel intern â thâl mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Drwy gydol eich gradd israddedig yn y Gyfraith, byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Wrth symud ymlaen yn eich astudiaethau, gallwch ddewis o amrywiaeth eang o feysydd pwnc sy'n canolbwyntio ar fusnes, gan gynnwys: cyfraith masnach, cyfraith y cyfryngau, gwerthiannau masnachol, cyfraith cystadlu, a chyfraith cyflogaeth.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.
Os hoffech gwblhau LLB 3 blynedd heb flwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB Cyfraith Busnes.