Y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol, LLB (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students at the school of law

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein LLB yn y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig gradd yn y Gyfraith ynghyd ag archwiliad o'r perthnasoedd a'r patrymau ymddygiad a geir rhwng cenhedloedd, eu harweinwyr a sefydliadau. 

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o feysydd craidd gradd yn y Gyfraith. Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddewis o blith ystod eang o feysydd pwnc arbenigol yn y gyfraith gyda rhestr helaeth o dros 40 o fodiwlau dewisol i ddewis ohonynt. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu am werth perthnasoedd heddychlon rhwng cenhedloedd, gan ganolbwyntio ar themâu megis globaleiddio, gwleidyddiaeth ryngwladol, heddwch a gwrthdaro, a strategaethau grym.

Drwy gydol eich gradd byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddol rhagorol, gan ddysgu cyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn elwa o'n dull a arweinir gan ymarfer o ymdrin â'r gyfraith a'i pherthynas â chysylltiadau rhyngwladol.

Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, ac maent yn bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.

Os hoffech gwblhau gradd LLB 4 blynedd gyda blwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol.

Pam y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe?

Byddwch yn rhan o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn elwa o fod yn rhan o ddau amgylchedd bywiog ac amrywiol sy'n cadw myfyrwyr wrth eu gwraidd.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig a chynyddol am addysgu ac ymchwil yn y Gyfraith a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'n cael ei chydnabod yn gyson fel ffynhonnell arbenigedd sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd. Hefyd rydym yn hollol ymrwymedig i wella dysgu ac addysgu’n barhaus, ac i roi myfyrwyr wrth wraidd ein gweithgareddau.

Mae'r Gyfraith yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Yn y 125 Gorau yn y Byd (The Times Higher Education World University Rankings by Subject 2025)
  • Yn y 150 Gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Eich Profiad o'r Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol

Rydym yn cynnig amgylchedd chymuned dysgu cynhwysol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu haddysgu a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd.

Yn ogystal â gweithgareddau dysgu ac addysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i chi gymryd rhan ynddynt: o leoliadau sy’n seiliedig ar ymchwil, i weithio gyda chleientiaid, i ddatblygu sgiliau eiriolaeth ac eraill. Mae ein Clinig Cyfreithiol ffyniannus yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fod yn rhan o roi cyngor i gleientiaid ac mae gennym raglenni allgyrsiol gan gynnwys dadlau mewn ffug lys barn, negodi a chyfweld.

Bydd gennych hefyd yr opsiwn cystadleuol yn semester un (a fydd ar gael i 20 myfyriwr) i ymgymryd â modiwl interniaeth yn Senedd Cymru, gan weithio'n agos gydag Aelodau o'r Senedd am ddiwrnod yr wythnos. Yn ogystal â hyn, yn eich blwyddyn derfynol byddwch yn cael y cyfle amhrisiadwy i ddewis cael lle ar eu Cynllun Lleoliad Gwaith.

Mae strwythur hyblyg ein gradd israddedig, gyda’i hystod helaeth o fodiwlau dewisol yn y flwyddyn olaf, yn rhoi digon o gwmpas i chi deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa neu’ch uchelgeisiau. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd lleoliadau gwaith ychwanegol mewn amrywiaeth eang o sefydliadau.

Cyfleoedd Cyflogaeth y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol

Gall astudio am radd yn y Gyfraith arwain at amrywiaeth o yrfaoedd. Ein nod ni yw arfogi myfyrwyr â’r sgiliau amrywiol i wella eu rhagolygon fel graddedigion. Mae ein graddedigion yn dod o hyd i swyddi mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys y canlynol:

  • bargyfreithiwr, gwas sifil, gweithredwr cyfreithiol, gweithiwr paragyfreithiol, heddwas, swyddog carcharorion, ymchwilydd, cyfreithiwr, brocer stoc neu swyddog safonau masnach

Mae ychwanegu arbenigedd cysylltiadau rhyngwladol at eich gradd yn agor drysau i yrfaoedd mewn:

  • Addysg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Sefydliadau Dyngarol, Busnes, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, neu Wasanaethau Cyhoeddus

 

Modiwlau

Mae blynyddoedd 1 a 2 yn cynnwys meysydd craidd gradd yn y Gyfraith, gyda'r opsiwn i ddewis rhai o'ch modiwlau eich hun yn ystod blwyddyn 2.

Mae blwyddyn 3 yn cynnwys modiwlau dewisol yn unig, gan roi cyfle i chi lywio eich dysgu eich hun, gyda mwy na 30 i ddewis ohonynt.

Drwy gydol eich ail a'ch trydedd flwyddyn, cewch ddewis o restr helaeth o dros 40 o opsiynau dewisol, ceir rhagor o wybodaeth isod.

Y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol

yn Y GYFRAITH GYDA CHYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL GYDA BLWYDDYN DRAMOR