Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth, LLB (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students at the school of law

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Gallwch gyfuno gradd yn y gyfraith ag archwiliad o wleidyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol drwy ein gradd LLB yn y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o feysydd craidd gradd yn y Gyfraith. Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddewis o blith ystod eang o feysydd pwnc arbenigol yn y gyfraith gyda rhestr helaeth o dros ddeugain o fodiwlau dewisol i ddewis ohonynt. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn astudio agweddau allweddol ar wleidyddiaeth Prydain a rhyngwladol, polisi cyhoeddus, damcaniaeth wleidyddol, athroniaeth, a heddwch a gwrthdaro.

Drwy gydol eich gradd byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddol rhagorol, gan ddysgu cyflwyno eich syniadau'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn elwa o'n dull a arweinir gan ymarfer o ymdrin â'r gyfraith a'i pherthynas â gwleidyddiaeth.

Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai hynny sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.

Os hoffech gwblhau gradd LLB 4 blynedd gyda blwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Gwleidyddiaeth.

 

Pam y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth yn Abertawe?

Byddwch yn rhan o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn elwa o fod yn rhan o ddau amgylchedd bywiog ac amrywiol sy'n cadw myfyrwyr wrth eu gwraidd.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig ac mae’n dod yn fwyfwy adnabyddus am addysgu ac ymchwil yn y gyfraith a gwleidyddiaeth, ac mae'n cael ei chydnabod yn gyson fel ffynhonnell arbenigedd sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd. Hefyd rydym yn hollol ymrwymedig i wella dysgu ac addysgu’n barhaus, ac i roi myfyrwyr wrth wraidd ein gweithgareddau.

Mae'r Gyfraith yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Yn y 125 Gorau yn y Byd (The Times Higher Education World University Rankings by Subject 2025)
  • Yn y 150 Gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Mae Gwleidyddiaeth yn Abertawe:

  • Yn 4ydd yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2025)

Eich Profiad o'r Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu a chymuned gynhwysol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu cyflwyno a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb dros eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd.

Yn ogystal â gweithgareddau dysgu ac addysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i chi gymryd rhan ynddynt: o leoliadau gwaith sy’n seiliedig ar ymchwil, i weithio gyda chleientiaid, i ddatblygu sgiliau eiriolaeth ac eraill. Mae ein Clinig Cyfreithiol ffyniannus yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fod yn rhan o roi cyngor i gleientiaid ac mae gennym raglenni dadlau, negodi a chyfweld allgyrsiol.

Byddwch yn astudio yn un o adrannau dethol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig modiwl Astudiaethau Seneddol Prydain, lle cewch eich addysgu gan ein staff academaidd arbenigol ac Aelodau Seneddol. Byddwch hefyd yn ymweld â Thŷ'r Cyffredin. Bydd gennych hefyd yr opsiwn cystadleuol o ymgymryd â modiwl lleoliad gwaith yn Senedd Cymru, gan weithio'n agos gydag Aelodau o'r Senedd.

Mae strwythur hyblyg ein gradd israddedig, gyda’i hystod helaeth o fodiwlau dewisol yn y flwyddyn olaf, yn rhoi digon o gwmpas i chi deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa neu’ch uchelgeisiau. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd lleoliadau gwaith ychwanegol mewn amrywiaeth eang o sefydliadau.

Cyfleoedd Cyflogaeth Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth

Gall astudio am radd yn y Gyfraith arwain at amrywiaeth o yrfaoedd. Ein nod ni yw arfogi myfyrwyr â’r sgiliau amrywiol i wella eu rhagolygon fel graddedigion. Mae ein graddedigion yn dod o hyd i swyddi mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys y canlynol:

  • bargyfreithiwr, gwas sifil, gweithredwr cyfreithiol, gweithiwr paragyfreithiol, heddwas, swyddog carcharorion, ymchwilydd, cyfreithiwr, brocer stoc neu swyddog safonau masnach

Mae ychwanegu safbwynt gwleidyddol at eich gradd hefyd yn agor drysau i yrfaoedd mewn:

  • Addysg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Sefydliadau Dyngarol, Busnes, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, neu Wasanaethau Cyhoeddus

 

Modiwlau

Mae blynyddoedd 1 a 2 yn cynnwys meysydd craidd gradd yn y Gyfraith, gyda'r opsiwn i ddewis rhai o'ch modiwlau eich hun yn ystod blwyddyn 2.

Mae blwyddyn 3 yn cynnwys modiwlau dewisol yn unig, gan roi cyfle i chi lywio eich dysgu eich hun, gyda mwy na 30 i ddewis ohonynt.

Drwy gydol eich ail a'ch trydedd flwyddyn, cewch ddewis o restr helaeth o dros 40 o opsiynau dewisol, ceir rhagor o wybodaeth isod.

Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth

yn Y GYFRAITH GYDA GWLEIDYDDIAETH GYDA BLWYDDYN DRAMOR