Trosolwg o'r Cwrs
Cymerwch y camau cyntaf tuag at ystod o yrfaoedd cyffrous a gwerth chweil yn y Gyfraith gyda'n Gradd Anrhydedd Unigol LLB Y Gyfraith (Llwybr JD).
Byddwch yn ennill sylfaen gynhwysfawr yn y meysydd craidd a gwmpesir gan radd yn y gyfraith. Byddwch yn astudio modiwlau o ystod eang o feysydd pwnc, gan gynnwys: Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Camwedd (Tort), Cyfraith Contractau, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith Tir, Cyfraith yr UE yn ei Gyd-destun, a Chyfraith Gyfansoddiadol Canada.
Wrth i'ch astudiaethau barhau, bydd amrywiaeth eang o feysydd pwnc arbenigol y gyfraith gydag ystod o fodiwlau dewisol i chi allu dewis o’u plith. Cewch ddigon o gyfle i ddatblygu eich sgiliau cyfreithiol proffesiynol trwy gymryd modiwlau profiad dewisol mewn Eiriolaeth, Addysg Gyfreithiol Glinigol a Thrafodaethau.
Mae'r rhaglen yn cyfuno trylwyredd academaidd â'r cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau cyfreithiol hanfodol, gan eich galluogi i symud ymlaen i'r cam nesaf o hyfforddiant i gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru, Lloegr a Chanada.
Mae'r radd yn ymgorffori'r pynciau cyfreithiol craidd a asesir gan Arholiad Cymhwyster y Cyfreithwyr ac mae wedi'i hachredu gan Fwrdd Safonau'r Bar. Yn amodol ar isafswm lefel cyrhaeddiad mewn modiwlau craidd, mae'r radd hefyd wedi'i hachredu gan Bwyllgor Cenedlaethol Canada ar Achredu (NCA), ac mae modiwl Cyfraith Gyfansoddiadol Canada yn darparu paratoad rhagorol ar gyfer arholiad yr NCA (mae rhagor o wybodaeth am ofynion achredu NCA ar gael ar wefan yr NCA).