Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLB yn y Gyfraith (Llwybr Carlam JD) yn radd ddwys yn y gyfraith, a addysgir dros ddwy flynedd, ac sydd wedi ei dylunio'n benodol ar gyfer graddedigion o brifysgolion yng Nghanada sydd heb radd yn y gyfraith.
Byddwch yn astudio modiwlau o ystod eang o feysydd pwnc, gan gynnwys: Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Camweddau, Cyfraith Contractau, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr UE mewn Cyd-destun, a Chyfraith Gyfansoddiadol Canada.
Mae'r rhaglen yn cyfuno manwl gywirdeb academaidd â’r cyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau cyfreithiol hanfodol, gan eich galluogi i symud ymlaen at gam nesaf hyfforddiant er mwyn cymhwyso fel cyfreithiwr yn Lloegr, Cymru ac yng Nghanada.
Mae'r radd yn ymgorffori'r pynciau cyfreithiol craidd a asesir gan yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr, ac mae wedi'i hachredu gan Fwrdd Safonau'r Bar. Yn amodol ar lefel cyrhaeddiad gofynnol mewn modiwlau craidd, mae'r radd hefyd wedi'i hachredu gan Bwyllgor Achredu Cenedlaethol Canada (NCA). Mae’r modiwl Cyfraith Gyfansoddiadol Canada yn baratoad ardderchog ar gyfer arholiad yr NCA (mae rhagor o wybodaeth am ofynion achredu’r NCA ar gael ar wefan yr NCA).