Y Gyfraith gyda Throseddeg, LLB (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
students at the school of law

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y radd hon yn y Gyfraith yn cyfuno’r Gyfraith a Throseddeg, gan roi’r cyfle i chi gyfuno diddordeb mewn troseddeg a pholisi troseddol gan roi sylw helaeth i’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr.

Lluniwyd y rhaglen i gynnwys pynciau sylfaenol ym mhob disgyblaeth yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn, gan roi dewis eang i chi o ran astudio dewisol yn y flwyddyn olaf.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o feysydd craidd gradd yn y Gyfraith. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn astudio cysyniadau craidd maes troseddeg, damcaniaethau pwysicaf troseddu a gwyrni a’u perthnasedd â pholisi troseddol, ymchwil ac ymarfer troseddol.

Trwy gydol eich gradd israddedig yn Y Gyfraith gyda Throseddeg, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Mae ein holl raglenni israddedig  y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae ei hangen i ddechrau gyrfa fel cyfreithiwr. Mae ein rhaglenni’n darparu sylfaen gadarn i fyfyrwyr sydd am sefyll yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, ac yn bodloni cyfnod academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau’r Bar i’r myfyrwyr sydd am fod yn fargyfreithwyr.

Os hoffech gwblhau LLB 4 blynedd gyda blwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg.

Pam Y Gyfraith gyda Throseddeg yn Abertawe?

Yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, byddwch yn elwa o fod yn rhan o ymchwil fywiog ac amrywiol ac amgylchedd addysgu sy’n cylchdroi o amgylch ei fyfyrwyr.

Mae Prifysgol Abertawe wedi sefydlu a datblygu enw da ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes addysgu troseddeg. Cydnabyddir Ysgol y Gyfraith fel ffynhonnell arbenigedd ac ysgol sy’n dylanwadu ar bolisi ac ymarfer mewn amrywiaeth eang o feysydd ymarfer. Mae’r Ysgol yn gwbl ymrwymedig i welliant parhaus o ran dysgu ac addysgu, ac i roi eu myfyrwyr wrth wraidd eu gweithgareddau.

Mae'r Gyfraith yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Yn y 125 Gorau yn y Byd (The Times Higher Education World University Rankings by Subject 2025)
  • Yn y 150 Gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Mae Troseddeg yn Abertawe ymhlith y:

  • 3ydd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Rhagolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2025)

Eich Profiad Y Gyfraith gyda Throseddeg

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu a chymuned gynhwysol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu cyflwyno a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb dros eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd. Yn ogystal â gweithgareddau dysgu ac addysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i chi gymryd rhan ynddynt: O leoliadau sy’n seiliedig ar ymchwil, i weithio gyda chleientiaid, i ddatblygu sgiliau eiriolaeth ac eraill. Mae ein Clinig Cyfreithiol ffyniannus yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fod yn rhan o roi cyngor i gleientiaid ac mae gennym raglen dadlau, negodi a chyfweld allgyrsiol.

Mae strwythur hyblyg ein gradd israddedig yn y Gyfraith a Throseddeg, gydag ystod helaeth o ran modiwlau yn y flwyddyn olaf, yn rhoi digon o gwmpas i chi deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau penodol, nodau neu ddyheadau o ran gyrfa. 

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn yn un o'n sefydliadau partner. Gall ehangu eich gorwelion a chael profiadau bywyd a sgiliau newydd helpu i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi yn y byd gwaith.

Yn ogystal â hynny, rydym hefyd yn cynnig ystod o gyfleoedd am leoliadau gwaith mewn amrywiaeth fawr o weithleoedd.

Cyfleoedd Cyflogaeth Y Gyfraith gyda Throseddeg

Gall astudio gradd yn y Gyfraith arwain at amrywiaeth o yrfaoedd. Ein nod ni yw arfogi myfyrwyr â’r sgiliau amrywiol i wella eu rhagolygon i raddedigion. Mae ein graddedigion yn dod o hyd i swyddi mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys y canlynol:

  • Bargyfreithiwr, gwas sifil, darlithydd, gweithredwr cyfreithiol, swyddog llywodraeth leol, gweithiwr paragyfreithiol, heddwas, swyddog carcharorion, brocer stoc neu swyddog safonau masnach.

Modiwlau

Strwythur modiwlau LLB y Gyfraith a Throseddeg.

Mae eich dwy flynedd gyntaf yn cynnwys modiwlau gorfodol, gan roi sylfaen gadarn i chi mewn meysydd ac egwyddorion allweddol sy'n ymwneud â'r gyfraith a throseddeg.  

Mae blwyddyn 3 yn cynnwys modiwlau dewisol yn unig, gan eich galluogi i lywio’ch dysgu eich hun. 

Y Gyfraith gyda Throseddeg

Y Gyfraith gyda Throseddeg gyda Blwyddyn Dramor