Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd LLB yn y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig gradd yn y gyfraith ynghyd ag archwiliad diddorol i'r perthnasoedd a'r patrymau ymddygiad a geir rhwng cenhedloedd, eu harweinwyr a sefydliadau, yn ogystal â lleoliad gwaith proffesiynol am flwyddyn.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o feysydd craidd gradd yn y Gyfraith. Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddewis o blith ystod eang o feysydd pwnc arbenigol yn y gyfraith gyda rhestr helaeth o dros ddeugain o fodiwlau dewisol i ddewis ohonynt. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn gwneud interniaeth â thâl mewn lleoliad cyfreithiol, a fydd yn eich galluogi i gael profiad uniongyrchol o ymarfer y gyfraith, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn hynod ddefnyddiol yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu am werth perthnasoedd heddychlon rhwng cenhedloedd, gan gynnwys canolbwyntio ar themâu megis globaleiddio, gwleidyddiaeth ryngwladol, heddwch a gwrthdaro, a strategaethau grym.
Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai hynny sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.
Os hoffech gwblhau gradd LLB 3 blynedd heb flwyddyn yn ymarfer, ewch i dudalen ein cwrs LLB yn y Gyfraith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol.