yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB (Anrh)

Meithrin gwybodaeth am y Gyfraith a Chysylltiadau Rhyngwladol

students at the school of law

Nid yw'n rhy hwyr i ddechrau astudio gyda ni ym mis Medi / Hydref.

Ewch i’n tudalennau Clirio am fwy o wybodaeth.

Trosolwg o'r Cwrs

Os nad ydych yn ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar y rhaglen LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol, yna gallai'r rhaglen hon dros bum mlynedd, gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen, fod yn addas i chi.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddechrau'r radd LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Gwleidyddiaeth; cewch gyflwyniad i themâu allweddol yn y gyfraith, yn ogystal â chyfleoedd i feithrin sgiliau newydd a fydd yn ddefnyddiol drwy gydol eich gradd israddedig.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn cael ei haddysgu yn Y Coleg, ar Gampws y Bae'r Brifysgol. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i Ysgol y Gyfraith ar Gampws Singleton am weddill eich rhaglen astudio.

Mae'r rhaglen hon yn darparu sylfaen gynhwysfawr o'r meysydd craidd sy'n rhan o radd yn y Gyfraith. Wrth i'ch astudiaethau fynd rhagddynt, gallwch ddewis o blith ystod eang o feysydd pwnc arbenigol yn y gyfraith gyda rhestr helaeth o dros ddeugain o fodiwlau dewisol i ddewis ohonynt.

Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn dysgu am werth perthnasoedd heddychlon rhwng cenhedloedd, gan gynnwys canolbwyntio ar themâu megis globaleiddio, gwleidyddiaeth ryngwladol, heddwch a gwrthdaro, a strategaethau grym.

Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae eu hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai hynny sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.

 

Pam yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

Fel myfyriwr ar raglen Sylfaen, byddwch yn elwa o fod yn rhan o amgylchedd addysgu amrywiol, gan astudio mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf ar ein Campws y Bae y buddsoddwyd £450 miliwn ynddo.

Byddwch yn treulio blwyddyn ar y rhaglen Sylfaen sy'n canolbwyntio'n llwyr ar eich paratoi i ymgymryd â'ch gradd LLB israddedig yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol.

Byddwch yn treulio eich pedwaredd flwyddyn yn gwneud interniaeth â thâl mewn lleoliad cyfreithiol, a fydd yn eich galluogi i gael profiad uniongyrchol o ymarfer y gyfraith, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn hynod ddefnyddiol yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Byddwch yn rhan o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ac yn elwa o fod yn rhan o ddau amgylchedd bywiog ac amrywiol sy'n cadw myfyrwyr wrth eu gwraidd.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig ac mae’n dod yn fwyfwy adnabyddus am addysgu ac ymchwil yn y gyfraith a gwleidyddiaeth, ac mae'n cael ei chydnabod yn gyson fel ffynhonnell arbenigedd sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd. Hefyd rydym yn hollol ymrwymedig i wella dysgu ac addysgu’n barhaus, ac i roi myfyrwyr wrth wraidd ein gweithgareddau.

Bydd ein Tîm Cyflogadwyedd sefydledig yn eich cefnogi i'ch helpu i sicrhau lleoliad gwaith mewn amgylchedd gwasanaeth cyfreithiol am eich trydedd flwyddyn, a fydd â buddion pendant i'ch llwybr gyrfa a'ch cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae'r Gyfraith yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Yn y 125 gorau yn y Byd (The Times Higher Education World University Rankings by Subject 2025)
  • Yn y 150 gorau yn y byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Eich Profiad yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen

Caiff myfyrwyr eu haddysgu mewn dosbarthiadau llai yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, sy'n caniatáu profiad mwy personol. Cewch gyfle i feithrin sgiliau hanfodol drwy fodiwlau megis Meddwl Beirniadol, Cymorth TG, a Chyfansoddi ac Arddull.

Yn ogystal â hyn, cewch gyflwyniad i gysyniadau a therminoleg cyfreithiol allweddol, drwy amrywiaeth o themâu addysgu sy'n cynnwys Sgiliau Cyfreithiol, Cyfraith Contract a Chyfraith Trosedd.

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu a chymuned gynhwysol sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu cyflwyno a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb dros eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd.

Yn ogystal â gweithgareddau dysgu ac addysgu, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i chi gymryd rhan ynddynt: o leoliadau sy’n seiliedig ar ymchwil, i weithio gyda chleientiaid, i ddatblygu sgiliau eiriolaeth ac eraill. Mae ein Clinig y Gyfraith ffyniannus yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fod yn rhan o roi cyngor i gleientiaid ac mae gennym raglen allgyrsiol o ddadlau mewn ffug lys barn, negodi a chyfweld.

Byddwch yn astudio yn un o adrannau dethol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig modiwl Astudiaethau Seneddol Prydain, lle cewch eich addysgu gan ein staff academaidd arbenigol ac Aelodau Seneddol. Byddwch hefyd yn ymweld â Thŷ'r Cyffredin. Bydd gennych hefyd yr opsiwn cystadleuol o ymgymryd â modiwl lleoliad gwaith yn Senedd Cymru, gan weithio'n agos gydag Aelodau o'r Senedd.

Mae strwythur hyblyg ein gradd israddedig, gyda’i hystod helaeth o fodiwlau dewisol yn y flwyddyn olaf, yn rhoi digon o gwmpas i chi deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa neu’ch uchelgeisiau. 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd lleoliadau gwaith ychwanegol mewn amrywiaeth eang o sefydliadau.

Cyfleoedd Cyflogaeth yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen

Gall astudio am radd yn y Gyfraith arwain at amrywiaeth o yrfaoedd. Ein nod ni yw arfogi myfyrwyr â’r sgiliau amrywiol i wella eu rhagolygon fel graddedigion. Mae ein graddedigion yn dod o hyd i swyddi mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys y canlynol:

  • bargyfreithiwr, gwas sifil, gweithredwr cyfreithiol, gweithiwr paragyfreithiol, heddwas, swyddog carcharorion, ymchwilydd, cyfreithiwr, brocer stoc neu swyddog safonau masnach

Mae ychwanegu safbwynt gwleidyddol at eich gradd hefyd yn agor drysau i yrfaoedd mewn:

  • Addysg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Sefydliadau Dyngarol, Busnes, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, neu Wasanaethau Cyhoeddus

 

Modiwlau

Eich blwyddyn astudio gyntaf fydd eich Blwyddyn Sylfaen yn Y Coleg. Mae hyn yn cynnwys cymysgedd o themâu cyfreithiol allweddol, ynghyd â'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n ofynnol i lwyddo yn eich gradd.

Ar ôl cwblhau'ch Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn symud i Ysgol y Gyfraith i gwblhau eich gradd LLB.

Mae blynyddoedd 2 a 3 yn cynnwys meysydd craidd gradd yn y Gyfraith, gyda'r opsiwn i ddewis rhai o'ch modiwlau eich hun yn ystod blwyddyn 3.

Bydd Blwyddyn 4 (Lefel S) yn cael ei threulio fel intern â thâl mewn lleoliad gwaith cyfreithiol. Byddwch yn gwneud y modiwl interniaeth (LA-S000) ac yn cael eich asesu drwy gydol y flwyddyn ac yn cael marc modiwl cyffredinol gydag adborth am bob elfen. Os nad yw'r marc a geir ar gyfer eich blwyddyn lleoliad (Lefel S) yn fanteisiol i chi (h.y. nid yw'n gwella eich cyfartaledd cyffredinol wedi'i bwysoli) yna ni chaiff ei gyfrif tuag at eich dosbarthiad gradd cyffredinol.

Mae blwyddyn 5 yn cynnwys modiwlau dewisol yn unig, gan roi cyfle i chi lywio eich dysgu eich hun, gyda mwy na 40 i ddewis ohonynt.

yn y Gyfraith ar Waith gyda Chysylltiadau Rhyngwladol gyda Blwyddyn Sylfaen