Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg gyda Blwyddyn Sylfaen, LLB (Anrh)

Rhaglen astudio LLB gyda Blwyddyn Sylfaen a Blwyddyn mewn Ymarfer

A group of students having a discussion

Trosolwg o'r Cwrs

Os nad ydych yn ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar y rhaglen LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg, yna gallai'r rhaglen hon dros bedair blynedd, gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen, fod yn addas i chi.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddechrau'r radd LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg; cewch gyflwyniad i themâu allweddol yn y gyfraith, yn ogystal â chyfleoedd i feithrin sgiliau newydd a fydd yn ddefnyddiol drwy gydol eich gradd israddedig.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn cael ei haddysgu yn Y Coleg, ar Gampws y Bae'r Brifysgol. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i Ysgol y Gyfraith ar Gampws Singleton am weddill eich rhaglen astudio.

Mae'r elfen LLB hon yn darparu sylfaen gynhwysfawr yn sylfeini'r gyfraith a throseddeg, a byddwch yn treulio blwyddyn ar raglen interniaeth â thâl mewn lleoliad cyfreithiol.

Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Wrth i'ch rhaglen astudio fynd rhagddi, gallwch ddewis o amrywiaeth eang o feysydd cyfreithiol arbenigol, gan eich galluogi i lywio eich dysgu eich hun. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn astudio cysyniadau allweddol ym maes troseddeg, y damcaniaethau pwysicaf ym maes troseddu a gwyredd a'u perthnasedd i bolisi, ymchwil ac ymarfer cyfiawnder troseddol cyfoes.

Mae pob un o'n rhaglenni israddedig yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae ei hangen i ddechrau yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae ein rhaglenni'n darparu sylfaen gref i fyfyrwyr a allai ddymuno sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, a bodloni'r cam academaidd o'r hyfforddiant sy'n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar i'r rhai sy'n dymuno dod yn fargyfreithwyr.

Pam y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe

Fel myfyriwr ar raglen Sylfaen, byddwch yn elwa o fod yn rhan o amgylchedd addysgu amrywiol, gan astudio mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf ar ein Campws y Bae y buddsoddwyd £450 miliwn ynddo.

Byddwch yn treulio blwyddyn ar y rhaglen Sylfaen sy'n canolbwyntio'n llwyr ar eich paratoi i ymgymryd â'ch gradd LLB israddedig yn y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg.

Wrth astudio ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn elwa o fod yn rhan o amgylchedd ymchwil ac addysgu bywiog gyda myfyrwyr wrth ei wraidd.

Mae gan Brifysgol Abertawe enw da sefydledig sy’n parhau i ddatblygu ym maes addysgu ac ymchwil y Gyfraith. Cydnabyddir Ysgol y Gyfraith fel ffynhonnell arbenigedd, sy’n dylanwadu ar bolisi ac ymarfer mewn amrywiaeth eang o feysydd ymarfer. Mae’r Ysgol yn hollol ymrwymedig i wella dysgu ac addysgu’n barhaus, ac i roi myfyrwyr wrth wraidd ei gweithgareddau.

Bydd ein Tîm Cyflogadwyedd sefydledig yn eich helpu i sicrhau lleoliad gwaith mewn amgylchedd gwasanaeth cyfreithiol am eich trydedd flwyddyn, a fydd â buddion pendant i'ch llwybr gyrfa a'ch cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae'r Gyfraith yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Yn y 125 Gorau yn y Byd (The Times Higher Education World University Rankings by Subject 2025)
  • Yn y 150 Gorau yn y Byd (QS World University Rankings by Subject 2025)

Mae Troseddeg yn Abertawe ymhlith y:

  • 13eg yn y DU (Guardian University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Times Good University Guide 2026)
  • 5ed am Ragolygon Graddedigion (Times Good Uni Guide 2026)

Eich Profiad o'r Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Caiff myfyrwyr eu haddysgu mewn dosbarthiadau llai yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, sy'n caniatáu profiad mwy personol. Cewch gyfle i feithrin sgiliau hanfodol drwy fodiwlau megis Meddwl Beirniadol, Cymorth TG, a Chyfansoddi ac Arddull.

Yn ogystal â hyn, cewch gyflwyniad i gysyniadau a therminoleg cyfreithiol allweddol, drwy amrywiaeth o themâu addysgu sy'n cynnwys Sgiliau Cyfreithiol, Cyfraith Contract a Chyfraith Trosedd.

Ar ôl i chi barhau i'ch gradd LLB yn y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu drwy brofiad i chi roi damcaniaeth ar waith yn ystod eich amser astudio. O leoliadau sy’n seiliedig ar ymchwil, i weithio gyda chleientiaid, i ddatblygu sgiliau eiriolaeth ac eraill. Mae ein Clinig y Gyfraith ffyniannus yn cynnig cyfle i fyfyrwyr fod yn rhan o roi cyngor i gleientiaid ac mae gennym raglenni allgyrsiol sy'n ymwneud â ffug-lysoedd barn, negodi a chyfweld â chleientiaid.    

Mae strwythur hyblyg ein gradd israddedig, gyda’i hystod eang o fodiwlau dewisol yn y flwyddyn olaf, yn rhoi digon o gwmpas i chi deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau penodol, eich nodau gyrfa neu’ch uchelgeisiau. Yn ogystal â'r interniaeth blwyddyn o hyd sy’n rhan o strwythur y radd, rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd lleoliadau gwaith byrrach mewn amrywiaeth eang o leoliadau.

Drwy gydol y rhaglen pum mlynedd, rydym yn cynnig amgylchedd a chymuned dysgu cynhwysol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Caiff modiwlau eu haddysgu a’u hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol a chewch eich annog i gymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun, i weithio’n annibynnol yn ogystal ag ar y cyd ag eraill, i ymddwyn yn broffesiynol a meistroli sgiliau newydd.

Cyfleoedd Cyflogaeth y Radd Cyfraith ar Waith gyda Throseddeg gan gynnwys Blwydd

Gall astudio am radd yn y Gyfraith arwain at amrywiaeth o yrfaoedd. Ein nod yw eich galluogi i feithrin sgiliau amrywiol i wella eich rhagolygon. Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys y canlynol:

  • Bargyfreithiwr, gwas sifil, darlithydd, gweithredwr cyfreithiol, swyddog llywodraeth leol, gweithiwr paragyfreithiol, heddwas, swyddog carcharorion, ymchwilydd, cyfreithiwr, brocer neu swyddog safonau masnach.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol Safon Uwch

DD

Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg gyda Blwyddyn Sylfaen