Cyfrifeg a Chyllid, BSc (Anrh)

Mae'r cwrs BSc hwn wedi'i achredu gan dri chorff cyfrifeg proffesiynol

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Dewch yn raddedig hynod fedrus sy'n barod am yrfa lwyddiannus gyda gradd BSc (Anrh.) mewn Cyfrifeg a Chyllid. Bydd ein gradd sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd yn rhoi i chi'r sgiliau damcaniaethol, technegol ac ymarferol i ymuno â'r gweithlu mewn modd hyderus. 

Gyda ffocws cryf ar gynaliadwyedd a chan fynd i'r afael â heriau byd-eang megis cyllid yr hinsawdd, osgoi trethi rhyngwladol a thechnoleg ariannol mewn marchnadoedd sy'n dod i'r amlwg, byddwch yn archwilio cyd-destun cymdeithasol, moesegol a byd-eang Cyfrifeg a Chyllid ac yn cael profiad ymarferol o blatfformau data ariannol, efelychiadau a briffiau ariannol byw, a defnyddio offer proffesiynol yn ein Labordy Cyllid o'r radd flaenaf. 

Bydd ein gradd yn eich rhoi chi ar flaen y gad wrth gyflawni statws Cyfrifydd Siartredig ac mae ein hopsiynau Blwyddyn mewn Diwydiant, Blwyddyn Dramor a Blwyddyn Sylfaen yn rhoi'r cyfle i chi deilwra eich profiad astudio i'ch anghenion a'ch uchelgeisiau gyrfa, gan eich paratoi am yrfa gyffrous mewn Cyfrifeg a Chyllid. 

Pam Cyfrifeg a Chyllid yn Abertawe?

Byddwch yn astudio yn yr adran sy’n rhan o’r Ysgol Reolaeth gwerth £22 miliwn ar ein campws arfordirol yn y Bae. Mae’r adran yn perfformio'n uchel gydag addysgu a phrofiad myfyrwyr o safon.

Dyfernir bod Cyfrifeg a Chyllid yn Abertawe yn:

  • Yn y 13eg safle yn y DU (Daily Mail University Guide 2026)
  • 10fed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Yn y 11eg safle yn y DU am Ansawdd Addysgu (Times Good University Guide 2026)

Eich Profiad Cyfrifeg a Chyllid

Mae ein haddysgu wedi'i lywio gan ymchwil ac mae ein staff, sydd â phrofiad ymarferol mewn damcaniaeth ac ymarfer, wedi ymrwymo i addasu eich dysgu i heriau byd-eang sy'n datblygu. Byddwch yn elwa o'u harbenigedd, yn ogystal â'ch cyfranogiad mewn gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar y diwydiant gan gynnwys efelychiadau ariannol, prosiectau byw, darlithoedd gwadd a phaneli diwydiant, i hyrwyddo eich dysgu.

Bydd ein hopsiynau astudio Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor yn rhoi profiad gwerthfawr i chi naill ai drwy leoliad blwyddyn â thâl, neu i fyw ac astudio mewn gwlad wahanol am hyd at flwyddyn, i wella eich cyflogadwyedd a'ch rhagolygon gyrfa byd-eang.

Yn ogystal, mae ein rhaglen yn annog meddwl entrepreneuraidd ac, os dymunwch, cewch eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau menter trwy heriau busnes a mynediad at ddeoryddion a chanolfannau cymorth dan arweiniad y Brifysgol. P'un a ydych chi am gychwyn busnes, neu ysgogi newid mewn sefydliad, byddwch chi'n barod i arwain yn gyfrifol ac yn greadigol.

Os ydych chi'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, mae ein BSc (Anrh.) Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, gan eich rhoi chi ar y trywydd iawn gyda'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych chi'n dychwelyd i fyd addysg ar ôl blynyddoedd lawer.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfrifeg a Chyllid

Mae gan raddedigion ein graddau BSc (Anrh.) Cyfrifeg a Chyllid y sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i ffynnu mewn ystod eang o rolau sy'n gysylltiedig â chyllid, ar draws diwydiannau byd-eang, fel:

  • Gwaith cyfrifyddu neu actiwaraidd
  • Bancio buddsoddi
  • Archwilio
  • Rheoli Asedau a Chyfoeth
  • Cyllid Corfforaethol
  • Technoleg Ariannol
  • Dadansoddiad Risgiau
  • Rolau Rheoleiddio neu Gynghori ar Bolisi
  • Entrepreneuriaeth

Mae llawer o'n graddedigion hefyd yn symud ymlaen i'n rhaglenni MSc mewn cyllid, economeg neu wyddor data i ddatblygu eu sgiliau arbenigol ymhellach neu’n cwblhau cymwysterau proffesiynol er mwyn dod yn Gyfrifydd Siartredig neu'n Ddadansoddwr Ariannol Siartredig.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cyfrifeg a Chyllid, BSc (Anrh)

Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)