Cyllid, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi'n chwilio am radd Cyllid i roi mantais gystadleuol i chi? Bydd y radd BSc Cyllid ym Mhrifysgol Abertawe yn gwneud hynny.

Mae'r radd hon yn berffaith os oes gennych ddiddordeb penodol mewn meysydd Cyllid fel bancio buddsoddi neu fasnachu ariannol.

Drwy gyfuno damcaniaeth, tystiolaeth empirig a defnydd ymarferol, byddwch yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan eich galluogi i ddadansoddi a gwerthuso'n feirniadol materion a chysyniadau ariannol y byd go iawn.

Fel arbenigwr cyllid, byddwch yn chwarae rhan sylfaenol wrth redeg busnes - mawr neu fach. Rheoli cyllidebau a threthi, adroddiadau ariannol, a chwblhau archwiliadau - mae'r rhain i gyd yn hanfodol wrth sicrhau bod busnes neu sefydliad yn gweithredu mor effeithiol a llwyddiannus â phosibl.

Mae ein cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Dadansoddwyr Ariannol Siartredig (CFA) ac mae ganddo statws Rhaglen Gysylltiedig y Brifysgol, sy'n arwydd i fyfyrwyr a chyflogwyr bod ein cwricwlwm yn cyd-fynd yn agos ag ymarfer rheoli buddsoddiadau ac mae'n ddefnyddiol i fyfyrwyr sy'n paratoi ar gyfer arholiadau'r Rhaglen CFA®.

Pam Cyllid yn Abertawe?

  • Mae'r radd wedi'i hachredu gan gyrff achredu byd-eang - ACCACFA, a'rCIMA
  • Gallwch chi deilwra eich cwrs i'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa chi – dewiswch o blith detholiad eang o fodiwlau dewisol
  • Datblygwch y gallu ymarferol ar gyfer y byd go iawn gan ein darlithwyr o'r radd flaenaf sydd â phrofiad heb ei ail ym meysydd diwydiant ac academaidd
  • Cymuned amrywiol o fyfyrwyr o dros 60 o wledydd gwahanol
  • Yn rhan o adeilad yr Ysgol Reolaeth gwerth £22 miliwn ar Gampws y Bae
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad Cyllid

Mae Cyllid yn Abertawe yn radd hyblyg sy'n rhoi'r cyfle i astudio dramor neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais gystadleuol sylweddol i chi ac ehangu eich gorwelion pan ddaw'r amser i chwilio am gyflogaeth.

Bydd eich profiad ar y cwrs Cyllid yn elwa o ddetholiad o fodiwlau dewisol yn y blynyddoedd astudio olaf, gan eich galluogi i addasu'r radd tuag at eich nodau gyrfa.

Mae'r addysgu yn Abertawe wedi'i lywio gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad personol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch chi elwa o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth ymarferol am y byd go iawn.

Yn ogystal â'ch paratoi am yrfa fel arbenigwr cyllid mewn busnes neu sefydliad, mae gennym wasanaethau cymorth sydd ar gael i'ch helpu i ddod yn entrepreneur sefydlu'ch busnes eich hun. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn i fyfyrwyr sydd am fod yn ddadansoddwyr ariannol annibynnol neu'n ymgynghorwyr ariannol.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych hefyd fynediad llawn at ein gwasanaethau cyflogadwyedd a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyllid

Ar ôl graddio mewn Cyllid o Abertawe, byddwch chi mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth wobrwyol mewn amrywiaeth eang o sefydliadau deniadol.

Pa sefydliadau bynnag rydych chi am weithio iddynt ar ôl graddio, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer cyflogaeth. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol (a llawer mwy):

  • Rheoli cyfoeth neu ymgynghorydd buddsoddi
  • Dadansoddwr cyllid
  • Gweithiwr proffesiynol ym maes bancio
  • Archwilydd

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, ystadegau, strategaeth a rheoli. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel y nodir isod.

Cyllid

Cyllid gyda Blwyddyn Dramor

Cyllid gyda Blwyddyn mewn Diwydiant