Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am radd ym maes cyllid mewn sector sy'n tyfu'n gyflym? Mae'r radd BSc Cyllid (Technoleg Ariannol) ym Mhrifysgol Abertawe ar eich cyfer chi.
Mae'r radd hon yn berffaith os oes gennych ddiddordeb penodol mewn meysydd ariannol fel technoleg cyllid neu raglennu ar gyfer cyllid. Mae'r rhaglen hon yn nodweddiadol am integreiddio data o'r byd go iawn wedi'u cyrchu gan gronfeydd data sy'n adnabyddus yn eang fel Refinitiv, FactSet, Obis M&A, a S&P Capital IQ – yr union gronfeydd data y mae dadansoddwyr ac ymchwilwyr yn y diwydiant yn dibynnu arnynt. Drwy gyfuno damcaniaeth, tystiolaeth empirig a defnydd ymarferol, byddwch yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan eich galluogi i ddadansoddi a gwerthuso'n feirniadol materion a chysyniadau ariannol y byd go iawn.
Yn ystod y degawd diwethaf, mae'r sector technoleg ariannol ffyniannus wedi creu ymchwydd yn y galw am sgiliau hynod arbenigol, gan arwain at gyfleoedd newydd am swyddi yn y farchnad hon.