Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am radd sydd â phwyslais ar gyllid a thechnoleg a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi? Dyna yn union bydd y radd BSc Cyllid (Technoleg Ariannol) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn ei wneud.
Os na fyddwch chi'n cael y graddau angenrheidiol i gofrestru ar y cwrs BSc Rheoli Busnes (Technoleg Ariannol), gallai'r radd BSc Cyllid (Technoleg Ariannol) gyda Blwyddyn Sylfaen fod yn ddelfrydol i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn llwybr ardderchog i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau gofynnol mewn cyllid, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y radd BSc Cyllid yn yr Ysgol Reolaeth.
Os yw gyrfa fel datblygwr meddalwedd ariannol, banciwr buddsoddi neu ddadansoddwr ariannol yn ysgogi eich brwdfrydedd, neu os ydych chi'n dychmygu eich hun fel rheolwr ariannol neu ddadansoddwr data, y radd hon am bedair blynedd fydd y sylfaen orau ar gyfer yr yrfa ariannol o'ch dewis.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, a leolir drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.