Trosolwg o'r Cwrs
A allwch weld eich hun yn gweithio i asiantaeth farchnata amlwladol gyda brand adnabyddus? Bydd y radd hon yn eich helpu i sefyll allan fel myfyriwr marchnata graddedig ymroddedig sy'n meddu ar y sgiliau creadigol dynamig sydd eu hangen i reoli marchnata mewn modd pendant ar lefel fyd-eang, genedlaethol neu leol.
P'un a ydych am weithio ar ochr yr asiantaeth neu'r cleient, yn y trydydd sector neu i'ch ymgynghoriaeth marchnata eich hun, mae ein cwrs yn rhoi'r cyfan sydd ei angen arnoch ar gyfer gyrfa fel ymarferydd marchnata.
Caiff y cwrs gradd BSc Marchnata ym Mhrifysgol Abertawe ei addysgu ar Gampws y Bae mewn lleoliad godidog ar lan y môr, ac mae'n cynnig sylfaen gadarn mewn egwyddorion marchnata a disgyblaethau rheoli allweddol.
Drwy gyfuno dysgu am strategaeth farchnata â phynciau cyfoes sy'n ymwneud ag ymddygiad defnyddwyr, ymchwil marchnata, marchnata rhyngwladol a marchnata digidol, byddwch yn dysgu sut i feddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau marchnata strategol ar sail gwybodaeth, gan effeithio ar y byd go iawn.
Dyma'r dewis perffaith os ydych am ddilyn gyrfa egnïol, hir a llwyddiannus ym maes marchnata.