Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi'n chwilio am radd i roi hygrededd penodol i chi ar gyfer rheoli gweithrediadau busnes mewn modd pendant ar lefel fyd-eang, genedlaethol neu leol?
Os ydych chi wedi'ch ysgogi i ddeall a gwella sut mae cynnyrch a gwasanaethau yn cael eu dylunio a'u cyflenwi, gan arbenigo mewn gweithrediadau, e-fusnes ac ymgynghoriaeth reoli, dyma'r llwybr i chi.
Y radd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yw'r rhaglen fwyaf sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n adnabyddus am feithrin rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl mewn modd masnachol. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i frandiau mwyaf y byd gan gynnwys Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg a Tata.
Yn ogystal ag arbenigo mewn gweithrediadau, bydd y cwrs Rheoli Busnes hwn yn eich galluogi i feithrin arbenigedd modern hanfodol mewn marchnata, entrepreneuriaeth, ymgynghoriaeth reoli, cyllid, e-fusnes, strategaeth a rheoli adnoddau dynol.