Rheoli Busnes, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych yn gweld eich hun yn cyflawni rôl allweddol mewn cwmni llwyddiannus? A ydych yn chwilio am radd a fydd yn eich helpu i sefyll allan drwy feddu ar y sgiliau arloesol sydd eu hangen i reoli busnes byd-eang, genedlaethol neu leol?

Y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yw'r rhaglen fwyaf sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n enwog am greu rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl yn fasnachol. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i weithio i rai o'r cwmnïau mwyaf yn y byd, gan gynnwys Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg a Tata.

Mae'n cynnig amrywiaeth o addysg arbenigol ym meysydd marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifyddu, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, yn ogystal â modiwlau dewisol arbenigol.

Os ydych yn anelu at ragori mewn arferion rheoli busnes byd-eang ar y lefel uchaf, hwn yw'r cwrs i chi.

Pam Rheoli Busnes yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Achredwyd gan gyrff a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys y CMI, yr unig sefydliad sy'n gallu dyfarnu statws Rheolwr Siartredig - yr anrhydedd uchaf i arweinwyr a rheolwyr
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Amrywiaeth o fyfyrwyr o fwy na 60 o wledydd gwahanol
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli Busnes

Mae'r cwrs Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser i chi ddod o hyd i waith.

Mae detholiad eang o fodiwlau dewisol yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn eich galluogi i lywio'r cwrs gradd tuag at eich nodau gyrfa penodol.

Mae llwybrau gradd arbenigol yn cynnwys Dadansoddeg Fusnes, Menter ac Arloesi, Rheoli Adnoddau Dynol, Marchnata a Chyllid. 

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn. 

Gallwn eich helpu i ddechrau eich busnes eich hun, gyda'n hamrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys gwasanaeth mentora busnes ochr yn ochr â phartneriaid corfforaethol sydd â chyfoeth o brofiad mewn diwydiant, ac rydym yn un o'r ychydig ysgolion busnes yn y DU sydd â thîm annibynnol o gynghorwyr gyrfaoedd.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes

Ar ôl graddio mewn Rheoli Busnes o Brifysgol Abertawe, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n llawn boddhad mewn unrhyw fusnes.

P'un ai Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg neu Tata sy'n mynd â'ch bryd, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf i unrhyw ddarpar gyflogwr. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Rheolwr Datblygu Busnes
  • Dadansoddwr neu Ymchwilydd
  • Entrepreneur
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Ymgynghorydd Rheoli

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, marchnata, datblygu sgiliau personol a rheoli gweithrediadau. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel a nodir isod.

Rheoli Busnes

Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Dramor

Rheoli Busnes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant