Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych yn gweld eich hun yn cyflawni rôl allweddol mewn cwmni llwyddiannus? A ydych yn chwilio am radd a fydd yn eich helpu i sefyll allan drwy feddu ar y sgiliau arloesol sydd eu hangen i reoli busnes yn lleol neu'n fyd-eang?

Gallai'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.

Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Rheoli Busnes, y cwrs BSc Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes rheoli busnes, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes yn yr Ysgol Reolaeth.

Yn ystod y pedair blynedd, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau busnes allweddol gan gynnwys: marchnata, rheoli gweithrediadau, cyfrifyddu, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol. Hefyd, gallwch astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n cwmpasu hanfodion pob agwedd ar fusnes, gan gynnwys ystadegau a dulliau meintiol yn ogystal â sgiliau academaidd a phroffesiynol.

Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.

Pam Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Achredwyd gan gyrff a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys y CMI, yr unig sefydliad sy'n gallu dyfarnu statws Rheolwr Siartredig - yr anrhydedd uchaf i arweinwyr a rheolwyr
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Addysgir y Flwyddyn Sylfaen yn Y Coleg, adeilad â chyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws y Bae
  • Caiff tair blynedd olaf y cwrs eu haddysgu yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth, sydd y drws nesaf i'r Coleg ar Gampws y Bae

Eich Profiad Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r cwrs BSc Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn roi mantais gystadleuol wirioneddol i chi a bydd yn ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser chwilio am gyflogaeth.

Caiff eich blwyddyn gyntaf (y Flwyddyn Sylfaen) ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth, a chaiff eich tair blynedd olaf eu haddysgu yn yr Ysgol Reolaeth ei hun. Bydd ein detholiad eang o fodiwlau dewisol, y gallwch ddewis o'u plith yn ystod dwy flynedd olaf eich astudiaethau, yn eich galluogi i lywio'r cwrs gradd tuag at eich nodau gyrfa.

Mae'r cwrs ei hun yn cyfuno gwaith theori a gwaith ymarferol. Yn ystod y cwrs pedair blynedd, byddwch yn meithrin craffter busnes cadarn a, thrwy astudio modiwlau busnes allweddol wedi'u cyfuno â modiwlau arbenigol sydd ar flaen y gad, byddwch yn meithrin y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i reoli busnes go iawn.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Gallwn eich helpu i ddechrau eich busnes eich hun, gyda'n hamrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys gwasanaeth mentora busnes ochr yn ochr â phartneriaid corfforaethol sydd â chyfoeth o brofiad mewn diwydiant, ac rydym yn un o'r ychydig ysgolion busnes yn y DU sydd â thîm annibynnol o gynghorwyr gyrfaoedd.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, byddwch mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n llawn boddhad mewn unrhyw sefydliad a ddymunwch.

P'un ai gweithio i gwmnïau gorau'r byd neu sefydlu eich cwmni ymgynghoriaeth busnes eich hun yw eich nod, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf am gyflogaeth. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Rheolwr Busnes
  • Cynghorwr Busnes
  • Rheolwr Manwerthu
  • Adnoddau Dynol
  • Hysbysebu / Ymgynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus

 

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, marchnata, datblygu sgiliau personol a rheoli gweithrediadau. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel a nodir isod.

Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen