Rheoli Busnes Byd-eang (Atodol), BSc (Anrh)

100 Uchaf yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS '24 -Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli

myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Sylwer: Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig.
Gall myfyrwyr o'r DU ystyried ein graddau rheoli busnes eraill.

Mae BSc Rheoli Busnes Byd-eang (Atodol) yn cynnig cyfle cyffrous i fyfyrwyr sy'n chwilio am addysg ddeinamig a chyfoes ym meysydd busnes a rheoli. Mae'r rhaglen arloesol hon yn canolbwyntio ar archwilio'n fanwl i sefydliadau, eu strategaethau rheoli ac effeithiau yn sgîl yr amgylcheddau allanol sy'n datblygu'n gyson, ar raddfa fyd-eang. Fe'i lluniwyd i fyfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd i ddysgu gyda'i gilydd a chan ei gilydd. 

Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol ac rydych chi eisoes wedi cwblhau astudio dwy flynedd o'ch gradd israddedig mewn disgyblaeth gysylltiedig neu'n meddu ar gymhwyster cyfwerth megis Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), gallwch chi astudio'r cwrs atodol hwn i ennill gradd baglor.

Os wyt ti'n fyfyriwr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig ac rwyt ti eisoes wedi astudio dwy flynedd o'th radd israddedig mewn disgyblaeth gysylltiedig neu'n meddu ar gymhwyster cyfwerth megis Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), gelli di astudio'r cwrs atodol hwn i ennill gradd baglor.

Mae ein cwricwlwm yn pwysleisio  amrywiaeth o safbwyntiau arwain a rheoli strategol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn deall cynnwys y pwnc yng nghyd-destun y dirwedd fyd-eang.  Mae materion cyfoes megis moeseg, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, cynaliadwyedd, entrepreneuriaeth, arloesedd a chyfathrebu digidol/marchnata wrth wraidd ein haddysgu.

Yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y farchnad busnes fyd-eang, mae'r radd hon yn berffaith ar gyfer y rhai hynny ag uchelgeisiau i ddatblygu eu haddysg ar lefel ôl-raddedig.  Ar ôl cwblhau'r radd yn llwyddiannus, mae myfyrwyr wedi'u harfogi i gael mynediad at y rhaglenni ôl-raddedig perthnasol.

Pam Rheoli Busnes Byd-eang (Atodol) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd.
  • Amrywiaeth o fyfyrwyr o fwy na 60 o wledydd gwahanol.
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae.

Eich Profiad Rheoli Busnes Byd-eang (Atodol)

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Gallwch gael cyngor personol pwrpasol diderfyn gan ein tîm gyrfaoedd. Efallai byddwch chi'n gallu gwneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes Byd-eang (Atodol)

Mae angen i'r bobl hynny ym myd busnes hefyd ddeall ymagweddau entrepreneuraidd a chreadigol at fusnes wrth sicrhau eu bod yn archwilio polisïau, rheoliadau a moeseg o safbwynt rheoli a marchnata.

Yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o sgiliau academaidd a phroffesiynol, mae'r pynciau sy'n debygol o gael eu cynnwys fel a ganlyn; deall pwysigrwydd rheoli prosiect ac arloesedd ym myd busnes, datblygu sgiliau ar gyfer arweinyddiaeth effeithiol a rhoi strategaethau ar waith i annog llwyddiant sefydliadol mewn amgylchoedd gwahanol.

Yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd yn y farchnad busnes fyd-eang, mae'r radd hon yn berffaith ar gyfer y rhai hynny ag uchelgeisiau i ddatblygu eu haddysg ar lefel ôl-raddedig.

Modiwlau

Ymwadiad: Gall y dewis o fodiwlau newid.

Rheoli Busnes Byd-eang (Atodol)