Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi'n chwilio am radd unigryw mewn busnes sy'n cynnwys ieithoedd modern, er mwyn rhoi'r sgiliau arbenigol gofynnol i chi i ragori ym maes rheoli busnes yn fyd-eang, yn genedlaethol neu'n lleol?

Mae'r radd hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn rheoli busnes ac ieithoedd modern hefyd. Mae'n cynnwys agweddau hanfodol ar fusnes a rheoli, yn ogystal â rhoi'r cyfle i chi feithrin cymhwysedd mewn iaith fodern. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio gwahanol ieithoedd drwy sesiynau rhagflas. Bydd hyn yn rhoi profiad i chi o Fandarin, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg cyn i chi ddewis un iaith i ganolbwyntio arni. Yn ystod eich ail flwyddyn a'ch trydedd flwyddyn o astudio, byddwch yn canolbwyntio ar astudio un iaith o'ch dewis. Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dilyn modiwlau iaith i ddechreuwyr, ac yn y drydedd flwyddyn byddwch yn symud ymlaen i lefel ganolradd. Wrth i chi wneud cynnydd yn eich astudiaethau, byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio eich iaith dramor mewn amgylchedd proffesiynol.

Y radd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yw'r rhaglen fwyaf sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n adnabyddus am feithrin rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl mewn modd masnachol. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i frandiau mwyaf y byd gan gynnwys Shell UKMarks & SpencerBloomberg a 

Wedi cwblhau'r rhaglen radd hon, byddwch yn hollol barod i ddechrau eich taith fel dinesydd byd-eang, a bydd gennych chi'r potensial i ymgymryd â sawl rôl amrywiol sy'n rhychwantu ystod eang o ddiwydiannau a gwasanaethau cyhoeddus.

Sylwer: Cynhelir blwyddyn gyntaf eich astudiaethau yn yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae, ac fe'ch addysgir ar draws Campws Parc Singleton a Champws y Bae yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn.

Pam Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Wedi'i achredu gan gyrff a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys yCMI, sef yr unig sefydliad sy'n gallu dyfarnu statws Rheolwr Siartredig – yr anrhydedd uchaf i arweinwyr a rheolwyr
  • Gallwch chi deilwra eich cwrs i'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa chi – dewiswch o blith detholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Datblygwch y gallu ymarferol ar gyfer y byd go iawn gan ein darlithwyr o'r radd flaenaf sydd â phrofiad heb ei ail ym meysydd diwydiant ac academaidd
  • Cymuned amrywiol o fyfyrwyr o dros 60 o wledydd gwahanol

Dyfarnwyd Ieithoedd Modern yn Abertawe yn:

  • 1af yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2025)
  • 1af ar gyfer Cyfleoedd Dysgu (NSS 2024)*
  • 2il ar gyfer Addysgu (ACF 2024)**
  • 2il ar gyfer Llais Myfyrwyr (NSS 2024)*
  • 5ed yn y DU yn gyffredinol (Guardian University Guide 2025)

*Yn seiliedig ar y sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 5 i 9 yn ACF 2024 o’i gymharu â’r prifysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y Times Good University Guide.
**Yn seiliedig ar y sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 1 i 4 yn ACF 2024 o’i gymharu â’r prifysgolion yn y Times Good University Guide.
***Yn seiliedig ar y sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 22 i 25 yn yr ACF 2024 o’i gymharu â’r prifysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y Times Good University Guide.

                       

Eich Profiad Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern)

Mae'r radd Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) yn Abertawe yn radd hyblyg sy’n rhoi i chi gyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant rhwng ail flwyddyn a blwyddyn olaf eich astudiaethau. Gall hyn roi mantais gystadleuol sylweddol i chi ac ehangu eich gorwelion pan ddaw'r amser i chwilio am gyflogaeth.

Mae ein detholiad eang o fodiwlau dewisol o'r ail a'r drydedd flwyddyn yn eich galluogi i lywio'r radd yn unol â'r meysydd sydd o ddiddordeb penodol i chi.

Mae'r addysgu yn Abertawe'n cael ei lywio gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch chi elwa o'u harbenigedd academaidd a'u profiad proffesiynol ymarferol. 

Yn ogystal â'ch paratoi am yrfa ffyniannus, rydym yn darparu gwasanaethau cymorth cynhwysfawr er mwyn eich cynorthwyo wrth lansio eich busnes eich hun. Mae ein hamrywiaeth o wasanaethau cymorth yn cynnwys mentora busnes yn ogystal â chydweithrediadau â phartneriaid corfforaethol sy'n meddu ar brofiad helaeth ym myd diwydiant.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych chi hefyd fynediad llawn i'n hystafell arloesol ar gyfer creu fideos a chynnwys digidol a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern)

Ar ôl graddio mewn Rheoli Busnes o Abertawe, gan arbenigo mewn Ieithoedd Modern, byddwch chi mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n rhoi boddhad mewn unrhyw fusnes.

P'un a ydych chi'n targedu Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg neu Tata, bydd y radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer unrhyw ddarpar gyflogwr. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Rheolwr Digwyddiadau
  • Newyddiaduriaeth, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Gwyddonydd Data
  • Gweithiwr Proffesiynol Busnes Rhyngwladol 
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Rheolwr Datblygu Busnes

 

Modiwlau

Bydd astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi ym meysydd cyfrifeg, cyllid, marchnata, datblygu sgiliau personol a rheoli gweithrediadau. Yn ogystal, caiff sesiynau rhagflas iaith eu cynnig ym Mlwyddyn Un i roi cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth o ieithoedd cyn ymrwymo i un iaith, a gallwch chi ddewis o blith Mandarin, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg ym Mlynyddoedd Dau a Thri.

Yn ogystal, yn ystod eich blynyddoedd diweddarach o astudio, gallwch chi deilwra eich astudiaethau drwy ddewis o ddetholiad o fodiwlau arbenigol gwahanol yn unol â'r yrfa o'ch dewis, fel y manylir isod.

Sylwer: Cynhelir blwyddyn gyntaf eich astudiaethau yn yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae, ac fe'ch addysgir ar draws Campws Parc Singleton a Champws y Bae yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn.

Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern)

Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda Blwyddyn Dramor

Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant