Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

Allet ti ddychmygu dy hun fel person sy'n allweddol i lwyddiant brand mawr? Wyt ti'n awyddus i archwilio'r cyfuniad o ieithoedd modern a byd busnes?

Gallai'r BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modernym Mhrifysgol Abertawe dy helpu i gyflawni hyn.

Os na fyddi di'n cael y graddau angenrheidiol i gofrestru ar y cwrs BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), gallai'r BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda gradd Blwyddyn Sylfaen fod yn ddelfrydol i ti.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn llwybr ardderchog i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau gofynnol mewn rheoli busnes, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y radd BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern).

Yn ystod dy radd, byddi di'n archwilio cysyniadau ym maes ieithoedd modern, gan gynnwys sesiynau rhagflas ym Mlwyddyn 1 ym Mandarin, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg cyn dewis un iaith i ganolbwyntio arni yn ystod yr ail a'r drydedd flwyddyn o astudio. Byddi di hefyd yn astudio modiwlau busnes craidd, gan gynnwys marchnata, cyfrifeg, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol. Cynlluniwyd modiwlau'r cwrs i sicrhau bod gennyt ddealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae busnes ac ieithoedd modern yn gweithio cyn i ti gamu i fyd gwaith.

Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, a leolir drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Pan fyddi di'n cwblhau'r flwyddyn hon, caiff Blwyddyn Un o'r astudiaethau ei haddysgu yn yr Ysgol Reolaeth, a bydd dy ail a dy drydedd flwyddyn yn cael eu haddysgu ar draws Campysau Singleton a'r Bae.

Pam Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda Blwyddyn Sylfaen yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Wedi'i achredu gan gyrff a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys CMI, sef yr unig sefydliad sy'n gallu dyfarnu statws Rheolwr Siartredig – yr anrhydedd uchaf i arweinwyr a rheolwyr
  • Gelli di deilwra dy gwrs i'th ddiddordebau a'th nodau gyrfa di – dewisa o blith detholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Datblygwch ygallu ymarferol ar gyfer y byd go iawn gan ein darlithwyr o'r radd flaenaf sydd â phrofiad heb ei ail ym meysydd diwydiant ac academaidd
  • Cymuned amrywiol o fyfyrwyr o dros 60 o wledydd gwahanol

Dyfarnwyd Ieithoedd Modern yn Abertawe yn:

  • 1af yn y DU ar gyfer Boddhad Addysgu (Guardian University Guide 2025)
  • 1af ar gyfer Cyfleoedd Dysgu (NSS 2024)*
  • 2il ar gyfer Addysgu (ACF 2024)**
  • 2il ar gyfer Llais Myfyrwyr (NSS 2024)*
  • 5ed yn y DU yn gyffredinol (Guardian University Guide 2025)

*Yn seiliedig ar y sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 5 i 9 yn ACF 2024 o’i gymharu â’r prifysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y Times Good University Guide.
**Yn seiliedig ar y sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 1 i 4 yn ACF 2024 o’i gymharu â’r prifysgolion yn y Times Good University Guide.
***Yn seiliedig ar y sgôr positifrwydd cyfartalog ar draws cwestiynau 22 i 25 yn yr ACF 2024 o’i gymharu â’r prifysgolion sydd wedi’u cynnwys yn y Times Good University Guide.

                                

Eich Profiad Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae'r BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda gradd Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe yn radd hyblyg gyda'r cyfle i astudio dramor am flwyddyn, neu weithio ym myd diwydiant am . Gall hyn roi mantais gystadleuol sylweddol i ti ac ehangu dy orwelion pan ddaw'r amser i chwilio am gyflogaeth.

Caiff dy flwyddyn gyntaf (y Flwyddyn Sylfaen) ei haddysgu yn Y Coleg, a leolir drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Pan fyddi di wedi cwblhau'r flwyddyn hon, caiff Blwyddyn Un o'r astudiaethau ei haddysgu yn yr Ysgol Reolaeth a'r ail a'r drydedd flwyddyn eu haddysgu ar draws Campysau Singleton a'r Bae.

Mae'r addysgu yn Abertawe'n cael ei lywio gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gelli di elwa o'u harbenigedd academaidd a'u profiad proffesiynol ymarferol.

Yn ogystal â'th paratoi am yrfa mewn busnes ac ieithoedd modern, mae gennym ni hefyd wasanaethau cymorth sydd ar gael i'th helpu i ddechrau dy fusnes dy hun. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig llwybr mentora, gan ddefnyddio cyfoeth o brofiad o fyd diwydiant.

Yn ystod dy amser gyda ni, bydd gennyt hefyd fynediad llawn i'n hystafell arloesol ar gyfer creu fideos a chynnwys digidol a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda Blwyddyn Sylfaen

Fel graddedig Rheoli Busnes o Abertawe sydd wedi arbenigo mewn Ieithoedd Modern, byddi di mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth sy'n rhoi boddhad mewn unrhyw fusnes.

P'un ai dy fod yn targedu Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg neu Tata, bydd y radd hon yn dy wneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer unrhyw ddarpar gyflogwr. Gallai dy gam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Rheolwr Digwyddiad
  • Newyddiaduriaeth, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
  • Gwyddonydd Data
  • Gweithiwr Proffesiynol Busnes Rhyngwladol 
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Rheolwr Datblygu Busnes

Modiwlau

Bydd astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i ti ym meysydd cyfrifeg, cyllid, marchnata, datblygu sgiliau personol a rheoli gweithrediadau. Yn ogystal, caiff sesiynau rhagflas iaith eu cynnig ym Mlwyddyn Un i roi cyfle i ti roi cynnig ar amrywiaeth o ieithoedd cyn ymrwymo i un iaith, a gelli di ddewis o blith Mandarin, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg ym Mlynyddoedd Dau a Thri.

Yn ogystal, yn ystod dy flynyddoedd diweddarach o astudio, gelli di deilwra dy astudiaethau drwy ddewis o ddetholiad o fodiwlau arbenigol gwahanol yn unol â'r yrfa o'th ddewis, fel y manylir isod.

Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) gyda Blwyddyn Sylfaen