Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi), BSc (Anrh)

Mae clirio ar agor!

Gwnewch gais nawr
myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Cymorth a Chefnogaeth Clirio 0808 175 3071

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych yn chwilio am radd mentergarwch a fydd yn eich helpu i sefyll allan drwy feddu ar y sgiliau arloesol sydd eu hangen i ddatblygu neu reoli busnes dynamig sy'n tyfu'n gyflym?

Mae astudio entrepreneuriaeth yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol i chi o fentergarwch, rôl entrepreneuriaid yn yr economi, a sut mae modelau busnes entrepreneuraidd yn llwyddo neu'n methu yn ymarferol.

Byddwch yn meithrin y sgiliau ymarferol a'r meddylfryd sydd eu hangen ar entrepreneur.

Y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yw'r rhaglen fwyaf sefydledig yn yr Ysgol Reolaeth, ac mae'n enwog am greu rheolwyr busnes hynod fedrus sy'n meddwl yn fasnachol. Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i weithio i rai o'r cwmnïau mwyaf yn y byd, gan gynnwys Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg a Tata.

Yn ogystal ag arbenigo mewn mentergarwch, bydd y cwrs Rheoli Busnes hwn yn eich galluogi i feithrin arbenigedd modern hanfodol mewn marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifyddu, strategaeth ac adnoddau dynol.

Pam Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Achredwyd gan gyrff a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys y CMI, yr unig sefydliad sy'n gallu dyfarnu statws Rheolwr Siartredig - yr anrhydedd uchaf i arweinwyr a rheolwyr
  • Teilwra eich cwrs i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa – dewiswch o ddetholiad enfawr o fodiwlau dewisol
  • Cewch gwybodaeth o'r byd go-iawn gan ein darlithwyr sydd â phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd
  • Amrywiaeth o fyfyrwyr o fwy na 60 o wledydd gwahanol
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae

Eich Profiad Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi)

Mae'r cwrs Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs gradd hyblyg sy'n rhoi cyfle i chi astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn. Gall hyn ehangu eich gorwelion pan ddaw'n amser i chi chwilio am waith neu ddechrau eich menter busnes eich hun.

Mae'r cwrs yn berffaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dechrau eu busnes eu hunain yn ogystal â'r rhai sydd am weithio mewn sefydliadau mawr ond sydd â diddordeb mewn cael effaith ar newid entrepreneuraidd. Mae ein detholiad eang o fodiwlau dewisol yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn eich galluogi i lywio'r cwrs gradd tuag at nodau gyrfa penodol, fel entrepreneuriaeth.

Caiff yr addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad ymarferol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch gael budd o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth am y byd go iawn.

Gallwn eich helpu i ddechrau eich busnes eich hun, gyda'n hamrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys gwasanaeth mentora busnes ochr yn ochr â phartneriaid corfforaethol sydd â chyfoeth o brofiad mewn diwydiant. Rydym hefyd yn un o'r ychydig ysgolion busnes yn y DU sydd â thîm annibynnol o gynghorwyr gyrfaoedd.

Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych fynediad llawn i'n stiwdios arloesol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth i greu fideos a chynnwys digidol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi)

Ar ôl graddio mewn Rheoli Busnes o Brifysgol Abertawe gan arbenigo mewn Menter ac Arloesi, byddwch mewn sefyllfa wych i ddechrau ar yrfa lwyddiannus.

P'un ai Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg neu Tata sy'n mynd â'ch bryd, mae'r radd hon yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf i unrhyw ddarpar gyflogwr. Mae hefyd yn eich gosod ar ben y ffordd i ddechrau eich busnes eich hun. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Entrepreneur
  • Rheolwr Datblygu Busnes
  • Dadansoddwr neu Ymchwilydd
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Cynghorydd Ariannol

Modiwlau

Bydd eich astudiaethau cynnar yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn cyfrifyddu, cyllid, marchnata a rheoli gweithrediadau. Yn ystod blynyddoedd diweddarach, gallwch roi ffocws i'ch astudiaethau drwy ddewis o blith gwahanol fodiwlau arbenigol yn unol â'ch dewis yrfa, fel a nodir isod.

Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi)

Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) gyda Blwyddyn Dramor

Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant